Skip to main content
Abaty Nedd
Wedi ei gyhoeddi

Drwy gydol mis Hydref 2021, bu Cadw mewn partneriaeth â Crisis Wales – sy’n rhan o brif elusen ddigartrefedd y DU – i gyflwyno cyfres o brofiadau yn ymwneud â ffotograffiaeth yn Abaty Nedd, Castell-nedd Port Talbot.

Gan weithio gyda chydlynydd Celfyddydau Crisis Wales, Esther Ley, datblygodd ein Tîm Dysgu Gydol Oes gyfres o sesiynau wythnosol a oedd yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o’r grefft ffotograffiaeth.

Roedd wythnos un yn gyfle i archwilio’r abaty a’i adeiladau, gan brofi gwir raddfa’r anheddiad crefyddol a fu ar un adeg yn lle llewyrchus. Gwnaed hyn wrth archwilio’r mwynhad o ffotograffiaeth ddigidol.

Neath Abbey - homeless photography participant takes photograph

Yn yr wythnosau dilynol datblygwyd hyder a medr y grwpiau i ddefnyddio camera i gasglu ffotograffiau a oedd yn mynegi eu golwg unigol ac unigryw o’r abaty a’i leoliad; fe wnaethon nhw hyd yn oed arbrofi gyda Phytogramau!

Roedd y prosiect yn cefnogi’r fenter ‘Celf o Argyfwng’, sy’n cynnig gweithdai cymorth, addysg a hyfforddiant i helpu pobl i ailgysylltu â’r byd. Ei nod yw galluogi pobl sy’n profi digartrefedd i ddarganfod llawenydd a phwrpas newydd mewn creadigrwydd, gan hybu gwydnwch ac ailadeiladu hunanhyder.

Mae Crisis wedi cadarnhau y bydd y delweddau a dynnwyd gan y grŵp yn ymddangos yn eu hymgyrch ledled y DU yn 2022. Maen nhw hefyd yn gweithio ar greu arddangosfa o’r prosiect a fydd yn cael ei chynnal mewn orielau lleol yng Nghastell-nedd a’r cyffiniau.

Ac, o ganlyniad i’r prosiect, mae Cadw yn datblygu adnodd dysgu ffotograffiaeth newydd i gefnogi grwpiau eraill a allai fod am archwilio ffotograffiaeth o amgylch safleoedd treftadaeth. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cynllunio i’w defnyddio ar y cyd â chyfle Gwobr y Celfyddydau neu rywbeth tebyg.

Mwy am Crisis

Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda miloedd o bobl ddigartref bob blwyddyn. Rydym yn darparu cymorth hanfodol fel y gall pobl ailadeiladu eu bywydau a’u bod yn cael eu cefnogi allan o ddigartrefedd am byth. Rydym yn cynnig cymorth, cyngor a chyrsiau un i un i bobl ddigartref mewn 12 ardal ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae sut rydym yn helpu rhywun yn dibynnu ar eu hanghenion a’u sefyllfa unigol. Gallai fod gyda dod o hyd i gartref ac ymgartrefu, ennill sgiliau newydd a dod o hyd i swydd, neu eu helpu nhw gyda’u hiechyd a’u lles. Rydym yn defnyddio ymchwil i ddarganfod y ffordd orau o wella ein gwasanaethau, ond hefyd i ddod o hyd i atebion ehangach i ddigartrefedd. Ynghyd â phobl ddigartref a chefnogwyr Crisis, rydym yn ymgyrchu dros y newidiadau sydd eu hangen i roi diwedd ar ddigartrefedd unwaith ac am byth.

I gymryd rhan:

Ffôn:  01792 674 900 / E-bost:  southwales@crisis.org.uk

Mwy am Abaty Nedd

Sefydlwyd Abaty Nedd fel mynachlog Savignac yn y flwyddyn 1130, ond datblygodd i fod yn Dŷ Sistersaidd pan amsugnwyd yr Urdd gan y Sistersiaid yn 1147. Cwblhawyd cyfadeilad mynachaidd erbyn diwedd y 12fed ganrif, ac er gwaethaf ymosodiadau yn ystod rhyfeloedd y Cymry, dechreuodd y safle ffynnu o dan nawdd Robert de Clare a dechreuwyd ailadeiladu’r lle ar raddfa fwy ar ddiwedd y 13eg ganrif.

Mae Cadw yn gofalu am Abaty a Phorthdy Nedd ac mae ar agor ac yn rhad am ddim i ymweld â nhw bob dydd.

Ymweld ag Abaty a Phorthdy Nedd

Mae’r prosiect hwn yn un o nifer o ddiwrnodau profiad y mae Cadw yn ei gynnig i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fel rhan o weledigaeth y sefydliad:

Cymru lle mae pawb yn gofalu am leoedd hanesyddol, yn eu deall a'u rhannu.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi neu’r grŵp gymryd rhan,

cysylltwch â: E-bost: Cadw.Education@gov.wales