Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw ac IHBC wedi uno i gynnig hyfforddiant arbenigol i Swyddogion Cadwraeth yng Nghymru ar raglen, er mwyn sicrhau bod gan bob un ohonynt y sgiliau cywir ar gyfer eu rolau canolog mewn cynllunio a threftadaeth a gofal amgylcheddol.

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg IHBC, Chris Wood:

'Mae sicrhau bod swyddogion cadwraeth yn hyddysg a chanddynt adnoddau i fynd i'r afael â chynigion sy'n delio â newid hinsawdd yn hanfodol os yw penderfyniadau ar ôl-osod a gwaith arall yn mynd i fod y rhai cywir.'

'Yng Nghymru, mae'r IHBC, gan weithio gyda Cadw, wedi hwyluso cyrsiau hyfforddiant deuddydd ar gyfer swyddogion cadwraeth. Mae hyn hefyd yn eu galluogi i gyflawni'r cymhwyster a gydnabyddir yn y safonau BSI ar ôl-osod adeiladau traddodiadol, y Wobr Lefel 3. Cyrsiau wyneb yn wyneb yw'r rhain, a gynhaliwyd fis diwethaf yn Abertawe yn ne Cymru ac yn fwy diweddar yng Nghonwy yng ngogledd Cymru.'

Dywedodd Jill Fairweather, Rheolwr Sgiliau Amgylchedd Hanesyddol Cadw:

'Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda'r IHBC i ddarparu'r hyfforddiant pwysig hwn yng Nghymru. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth yn allweddol i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau traddodiadol a hanesyddol.'

'Rydym yn annog pawb sy'n ymwneud â dylunio a gosod mesurau effeithlonrwydd ynni i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.'

Cyflwynir y cyrsiau gan Gadeirydd Panel Technegol IHBC, yr Athro John Edwards, ymarferydd arbenigol ac addysgwr yn y pwnc. A dywedodd:

'Rydym yn falch o fod yn darparu'r hyfforddiant hwn a gweld Cadw yn manteisio ar y fenter i wneud iddo ddigwydd gyda ni'n hunain a'r IHBC. Mae'n golygu y byddem wedi hyfforddi bron pob swyddog cadwraeth yng Nghymru'.

Rydyn ni wedi creu canllawiau i unrhyw un sydd am wella effeithlonrwydd ynni adeilad traddodiadol neu hanesyddol. Mae rhesymau da dros wneud hyn, gan gynnwys gostwng allyriadau carbon a lleihau biliau tanwydd, ac yn aml gall wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus i fyw neu weithio ynddo. Mae’n rhan o fyw'n fwy cynaliadwy hefyd: Sut i wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru