Cadw yn lansio ei dymor arswydus gyda chyfres o ddigwyddiadau Calan Gaeaf
Mae Cadw yn taflu ei hud dros Gymru ym mis Hydref, gyda rhestr o ddigwyddiadau Calan Gaeaf yn rhai o'i leoliadau hanesyddol mwyaf eiconig.
O hud a lledrith arswydus i ddigwyddiadau ysbrydol a rhyfeddol, mae rhywbeth i blesio (a dychryn) ymwelwyr o bob oedran.
Bydd rhai o'i henebion mwyaf eiconig yn cynnal amrywiaeth o deithiau arswydus i oedolion, a gweithgareddau hwyliog i blant dros wyliau hanner tymor.
Os ydych chi'n awyddus i greu atgofion yng ngolau’r lloer, cofleidio’ch gwrach neu’ch dewin mewnol, neu fwynhau diwrnod allan hwyliog ond ychydig yn arswydus gyda’r teulu, cymerwch olwg ar galendr Calan Gaeaf llawn Cadw .
Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ar wefan Cadw, ond dyma flas ar rai o’r uchafbwyntiau.
Y Gogledd
Arswyd Calan Gaeaf yng Nghastell Biwmares
Camwch i gysgodion Castell Biwmares y Calan Gaeaf hwn gan ddilyn llwybr brawychus y waliau hanesyddol. Cadwch lygad barcud am ddrychiolaethau erchyll, mentrwch i gegin y wrach, gan ddianc gyda gwobr, os meiddiwch chi.
Gall ymwelwyr hefyd alw heibio i'r ystafell grefft arswydus i gwrdd â'r gwrachod preswyl a gwneud ambell greadigaeth ddychrynllyd i fynd adref gyda nhw.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 25 i ddydd Sul 26 Hydref a Dydd Gwener 31 Hydref, 10:00 - 17:00
Taith Galan Gaeaf gyda’r nos ym Mhlas Mawr
Ydych chi’n ddigon dewr i fentro i Blas Mawr ar ôl i’r tywyllwch gau amdanoch? Fin nos, mae tŷ tref Elisabethaidd gorau Prydain yn llawn cyfrinachau am ysbrydion a hanesion ysgytwol. Profiad i oeri’r gwaed.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Gwener 31 Hydref, 16:30 - 18:00 a 18:15 - 19:45
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Helfa Sgerbydau Calan Gaeaf yng Nghastell Conwy
Dewch i ddatrys dirgelwch brawychus yng Nghastell Conwy y Calan Gaeaf hwn! Mae esgyrn sgerbwd wedi'u darganfod o amgylch y castell - ond i bwy maen nhw'n perthyn? Dilynwch y cliwiau dirgel, cwblhewch yr helfa, a datgelwch enw'r sgerbwd i ennill gwobr. Gyda’r cyfan yn digwydd yn un o gaerau canoloesol mwyaf godidog Ewrop, gydag amddiffynfeydd, tyrau a hanes ym mhob twll a chornel.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Gwener 31 Hydref, 09:00 – 17:00
Y De
Wythnos Arswyd Calan Gaeaf yng Ngwaith Haearn Blaenafon
Ymwelwch â Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yr hanner tymor hwn yn ystod wythnos o adrodd straeon arswydus yng Ngwaith Haearn Blaenafon. Clywch chwedlau, llên gwerin a straeon ysbrydion a chymerwch ran mewn llwybr Calan Gaeaf hwyliog sy'n addas i bob oed.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 25ain i ddydd Gwener 31ain Hydref, 11:00 – 15:30
Rydyn ni'n Mynd ar Helfa Ysbrydion yng Nghastell Rhaglan
Dilynwch lwybr Calan Gaeaf arswydus drwy adfeilion mawreddog Castell Rhaglan a pharatowch ar gyfer noson Calan Gaeaf! Ewch i ymweld â'r castell mwyaf mawreddog a adeiladwyd gan Gymry a mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl arswydus i bob oed yr hanner tymor hwn.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Llun 27ain i ddydd Gwener 31ain Hydref, 09:30 - 16:30
Noson o Straeon Ysbrydion yng Nghastell Cas-gwent
Gwisgwch yn gynnes a chymerwch eich sedd am noson o straeon brawychus a chwedlau lleol yn hen bantri Castell Cas-gwent. Cewch glywed straeon am orffennol dychrynllyd Cas-gwent gan ein storïwyr, yng nghalon un o gaerau hynaf a mwyaf atmosfferig Cymru.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Iau 23 a Dydd Iau 30 Hydref, 18:30 – 19:30 a 20:30 – 21:30
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Noson o straeon ysbryd a llên yn Nhref Rufeinig Caer-went
Ymgartrefwch am noson gyffrous i oedolion yn unig, o straeon ysbrydion a llên gwerin, wedi'u hadrodd gan ein storïwyr yn Ysgubor Caer-went. Darganfyddwch straeon brawychus sydd wedi'u gwreiddio mewn chwedlau lleol, a phob un yng nghysgod un o gyfrinachau Rhufeinig gorau Cymru.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Mawrth 28 Hydref, 19:00 – 20:30
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Y Canolbarth
Llwybr Arswydus Llys a Chastell Tre-tŵr
Mae'r ystlumod, y llygod mawr a’r holl greaduriaid eraill wedi meddiannu Tre-tŵr dros gyfnod Calan Gaeaf, gan greu llwybr dychrynllyd drwy'r tŷ hanesyddol. Dewch i weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a mwynhau hwyl brawychus yn un o dirnodau canoloesol mwyaf rhyfeddol Cymru.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Iau 30 i ddydd Gwener 31 Hydref, 10:00 – 16:00
Y Gorllewin
Y Cwrwgl Dirgel yng Nghastell Cilgerran
Profwch hud y Cwrwgl Dirgel, digwyddiad lle gallwch chi ymgolli ar noson dywyll mewn gwledd o dân, sain, golau a pherfformiad byw yn lleoliad dramatig Castell Cilgerran. Wedi’i ysbrydoli gan ffotograffiaeth Fictoraidd a llên gwerin lleol, mae'r digwyddiad teuluol hwn yn trawsnewid y gaer yn brofiad celfyddydol cwbl unigryw a phrydferth. Bachwch ar y cyfle i weld y castell gyda llygaid cwbl newydd.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Iau 23 i ddydd Sadwrn 25 Hydref, 18:30 – 20:30
Gemau a Gweithgareddau Calan Gaeaf yng Nghastell Talacharn
Mae yna hwyl, sbri a gemau Calan Gaeaf yng Nghastell Talacharn i’r teulu cyfan, gyda llwybr brawychus i’w ddilyn i ennill gwobr arbennig. Wedi'i leoli uwchlaw aber afon Taf, roedd y gaer ganoloesol gadarn hon a'r plasty Tuduraidd unwaith yn guddfan i fardd ac yn gartref i lyswr mawreddog. Cyfuniad perffaith o antur arswydus a hanes cyfoethog yn un o gestyll llawn naws gorau Cymru.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 25 i ddydd Sul 26 Hydref, 11:00 – 16:00
I'r rhai sy'n awyddus i fanteisio ar y digwyddiadau sydd ar gael yn ystod hanner tymor mis Hydref, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i 132 o leoedd hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru. Mae mynediad am ddim i blant hefyd gydag unrhyw aelodaeth oedolyn.