Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Cadw ac Amgueddfa Cymru wedi cytuno i gydweithio i wneud y mwyaf o botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion.

Mae'r rhan hon o'r ddinas eisoes yn adnabyddus am ei diwylliant cyfoethog a'i hasedau hanesyddol. 

Mae'r rhain yn cynnwys Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Amgueddfa Cymru yn ogystal â Baddondai’r Gaer Rufeinig a'r amffitheatr Rufeinig y mae Cadw yn gofalu amdanynt. Mae Caerllion hefyd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer teithiau ysgol. 

Gyda'i gilydd, mae'r tri sefydliad yn datblygu gweledigaeth ar gyfer y rhan hon o'r ddinas ac yn ystyried opsiynau i gynnig profiad gwell ar draws yr holl safleoedd Rhufeinig yng Nghaerllion ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr. 

Bydd galwad am ddatganiad o ddiddordeb gan bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nghaerllion i ymuno â Caerllion Rufeinig | Roman Caerllion – Gweithio mewn Partneriaeth a helpu i gynrychioli safbwyntiau lleol yn cael ei gwneud yn fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae gennym bwrpas cyffredin – amddiffyn a hyrwyddo ein hetifeddiaeth Rufeinig wych felly rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. 

"Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd a gynigir gan Gaerllion o fudd i'r gymuned leol a busnesau yn ogystal ag ymwelwyr.  Rydym yn cydnabod bod angen i drigolion a rhanddeiliaid eraill fod yn rhan o'r broses hon wrth i ni geisio helpu mwy o bobl i ddarganfod hanes gwerthfawr yr ardal."

Dywedodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru: 

"Yn Amgueddfa Cymru, rydym eisiau cynnig profiadau ymwelwyr a dysgu o ansawdd uchel, a gwneud cysylltiadau cryfach rhwng ein casgliad a'n cymunedau. 

"Mae rhaglenni addysg a dysgu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn rhan allweddol o'n gwaith. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd i sefydlu Caerllion Rufeinig ac i dyfu / gwella sut rydym yn adrodd hanes Cymru i gynulleidfa ehangach."

Dywedodd Gwilym Hughes, dirprwy gyfarwyddwr Cadw: 

"Mae treftadaeth Rufeinig o bwys rhyngwladol Caerllion ac asedau hanesyddol eraill yn haeddu cael eu hadnabod a'u gwerthfawrogi'n well.  Rydym yn edrych ymlaen at ymuno â'n partneriaid, y gymuned a rhanddeiliaid eraill i wella ein cynnig treftadaeth a thwristiaeth er budd y dref ac ymwelwyr."