Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Gwaith Haearn Blaenafon
Wedi ei gyhoeddi

Mae'n debyg nad safle treftadaeth y byd sy'n llawn hanes eiconig yw'r lle cyntaf sy'n dod i'r meddwl fel cartref newydd i griw o famaliaid pedair coes, ond yn fuan dyna lle bydd 18 gafr yn byw.

Mae'r argloddiau serth a'r archaeoleg ryfeddol yn Safle Treftadaeth y Byd Gwaith Haearn Blaenafon, sydd wedi'i leoli wrth odre Bannau Brycheiniog ac yn cael ei reoli gan Cadw, yn her wirioneddol o'i chymharu â'r ffordd arferol o reoli mannau gwyrdd hanesyddol. Ond mae'r hyn a ddechreuodd fel problem wedi agor y drws i gyfle annisgwyl.

A dyna hanes geifr Bagot.

Yn naturiol, mae'n well gan eifr blanhigion coediog a ffibrog fel mieri, rhedyn a draenen wen, y mae da byw eraill yn tueddu i'w hosgoi. Gall y mathau hyn o rywogaethau orlethu tirweddau diwydiannol yn gyflym, ond bydd arferion bwyta'r geifr yn helpu i'w cynnal yn naturiol.

Yn ecolegol, mae geifr hefyd yn darparu manteision gwirioneddol i fywyd gwyllt drwy deneuo llystyfiant trwm, sy'n golygu bod golau'n cyrraedd y tir yn well ac yn annog blodau gwyllt, glaswellt a phryfed i ffynnu. Yn wahanol i beiriannau sy'n lefelu llystyfiant yn unffurf, mae geifr yn creu amrywiaeth sy'n llawer mwy buddiol i beillwyr a bywyd gwyllt arall.

Mae'r fenter hefyd yn cefnogi nodau cynaliadwyedd Cadw. Nid oes angen tanwydd na chemegau ar eifr, maent yn cynhyrchu ychydig iawn o wastraff, ac yn helpu i leihau'r ôl troed carbon sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw traddodiadol. Bydd gofal y geifr yn arloesol hefyd; bydd coleri ffensio rhithwir yn cael eu ffitio arnyn nhw ac byddan nhw'n cael eu monitro drwy gamerâu solar 4G.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Cadw:

Does dim modd gwahanu hanes a thirwedd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, ac mae'r fenter hon yn adlewyrchu hynny'n berffaith. 

Mae geifr Bagot wedi bod yn rhan o gefn gwlad Cymru ers cenedlaethau, a nawr byddan nhw'n ein helpu i ofalu am y dirwedd ryfeddol hon mewn ffordd sy'n sensitif i'w chymeriad, yn well i fywyd gwyllt ac yn fwy caredig wrth yr amgylchedd – ac rydyn ni'n  gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau eu gweld fel rhan o stori'r safle.

Bydd y geifr yn cael eu darparu a'u rheoli gan Grazing Management Ltd, cwmni rheoli tir arbenigol sy'n canolbwyntio ar atebion naturiol ac ecolegol ar gyfer safleoedd heriol.

Dywedodd Alex o Grazing Management Ltd:

Roedd Blaenafon yn safle arloesi anhygoel ac mae'n fraint dod ag arloesi newydd i helpu i warchod y safle hanesyddol hwn.