Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Wrth i’r wlad ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae Cadw yn taflu goleuni ar rai o straeon difyr pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Ym mis Gorffennaf 2020, penododd y Prif Weinidog Grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan arweiniad Gaynor Legall, i archwilio enwau henebion, strydoedd ac adeiladau cyhoeddus yng Nghymru gyda’r diben o ddeall ble, pam a faint sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth a’r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac India’r Gorllewin. 

Gofynnwyd hefyd i’r Grŵp ymchwilio a nodi ffigurau hanesyddol o dreftadaeth Ddu yng Nghymru, a allai fod wedi cael eu coffáu neu beidio am eu cyflawniadau.

Datgelodd yr archwiliad straeon difyr pobl hanesyddol arwyddocaol o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Roedd Cadw a Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddathlu rhai o’u bywydau a’u llwyddiannau, a’u cysylltiadau ag amgylchedd hanesyddol Cymru. 

Fel rhan o’r prosiect Ymatebion Creadigol, mae’r bardd Alex Wharton wedi cyfleu hanesion ffigyrau amlwg ym myd adloniant, chwaraeon a’r byd academaidd. Gan ddefnyddio barddoniaeth, cân a ffilm, mae wedi creu teyrngedau i bobl, gan gynnwys Iris de Freitas, Clive Sullivan a Betty Campbell.   

Dyma un rhan o archwiliad ehangach o dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru. Mae Cadw wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, ynghyd ag amryw o grwpiau cymunedol ac artistiaid annibynnol i archwilio a chyflwyno gwahanol elfennau o hanes Cymru.

Y gobaith yw y bydd y rhan newydd hon o’r wefan yn annog pawb i ddarganfod mwy.

Mae ymweliadau â henebion Cadw a gweithgareddau ar y safle hefyd wedi dod â safleoedd treftadaeth at sylw grwpiau a theuluoedd sydd yn hanesyddol wedi bod yn ddieithr i safleoedd hanesyddol gwych Cadw.

Y gobaith yw y bydd ymrwymiad Cadw i dynnu sylw at amrywiaeth diwylliant Cymru a’i ddylanwad parhaus yn y ffordd y caiff amgylchedd y wlad ei lunio, yn sbardun i sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu cynnwys a’u croesawu i fod yn rhan o’r daith gyffredin honno.