Skip to main content

Mae pobl dduon wedi byw yng Nghymru ers canrifoedd.

Pan ddaeth y fyddin Rufeinig i Brydain, roedd ei milwyr yn hanu o bob rhan o’r ymerodraeth Rufeinig, gan gynnwys Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae arysgrif o’r drydedd ganrif a ganfuwyd yng Nghaerllion yn nodi presenoldeb Titus Flavius Postumius Varus, gŵr o Affrica a oedd wedi ymgartrefu yn yr Eidal cyn cael ei anfon i Gymru. Fe’i dyrchafwyd yn un o lywodraethwyr Rhufain maes o law.

Wrth i anturwyr o Brydain ac Ewrop hwylio i eithafoedd y byd yn ystod y cyfnod canoloesol a chyfnod y Tuduriaid, mae cofnodion yn dangos bod dynion a menywod o darddiad Affricanaidd yn byw mewn dinasoedd a phentrefi yn y Deyrnas Unedig, a bod y rhan fwyaf yn byw bywydau rhydd.

O tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ehangu ac wrth i’r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd gynyddu, cynyddodd y boblogaeth Affricanaidd hefyd, yn enwedig mewn dinasoedd â phorthladd a oedd yn ymwneud â’r fasnach. Roedd y boblogaeth hon yn cynnwys gweision, plant, morwyr a rhai caethweision a oedd wedi’u rhyddhau.

Mae archifau Cymru yn gyforiog o gyfeiriadau at unigolion duon a lleiafrifoedd ethnig. Maent i’w gweld mewn cyfrifon aelwydydd, cofnodion a llythyrau plwyfi, a thrwy hanesion llafar a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i’r llall mewn cymunedau. Mae hanes amrywiol Cymru yn llawn straeon hynod ddiddorol sydd wedi helpu i greu’r genedl.

Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am rai unigolion sydd wedi gadael eu marc.