GWELWYD: Dyweddïad Hudolus yng Nghastell Tylwyth Teg Cymru
Llwyddwyd i ddal dyweddïad hudolus ar gamera yng Nghastell Coch heddiw (dydd Sul, 09 Chwefror), wrth i Cadw drefnu diweddglo hapus i gwpl o Gaerdydd.
Wedi ei fframio’n berffaith gan dyrrau rhamantus y castell, mae’r deunydd emosiynol yn dangos Clair Johnson yn mynd i lawr ar un goes a gofyn i’w phartner ers pum mlynedd, Stephanie ei phriodi hi - yn y ffordd fwyaf Cymreig posibl.
Cafodd y ‘Profiad Dyweddïo Cymreig’ ei gynllunio a’i ariannu gan Cadw, ac aeth y digwyddiad fel wats gyda phopeth o dderbyniad champagne i berfformiad gan gôr meibion, a Chastell Coch ar gau i’r cyhoedd ar gyfer yr achlysur arbennig.
Cynhaliwyd yr eiliad arbennig yng nghwrt 19eg ganrif y Castell, gyda merch ddyflwydd oed y cwpl, Poppy, yn chwarae rhan arbennig wrth gario’r fodrwy.
Cynorthwywyd y weithred ramantus gan Gôr Meibion Pendyrus - a berfformiodd fersiwn ddigyfeiliant o Calon Lân o falconi’r castell, er mwyn dathlu dyweddïad y cwpl.
Yn y cyfamser, roedd Cadw wedi trefnu sesiwn tynnu lluniau i nodi dyweddïad y cwpl hapus, yn ogystal â the prynhawn am ddim i’r ddwy yn Ystafelloedd Te hyfryd y Castell - oedd yn cynnwys pice ar y maen a bara brith er mwyn gwneud y profiad yn un hollol Gymreig.
Wrth siarad am ddigwyddiadau’r dydd, dywedodd Clair,
“Diolch o waelod calon i Cadw am fy helpu i gynllunio’r cynnig priodas perffaith i fy nghymar oes, Steph.
“Mae’r profiad o ofyn y cwestiwn hollbwysig iddi mewn lleoliad mor rhamantus a neb arall o gwmpas yn rhywbeth na wnawn ni fyth ei anghofio - roedd yn wirioneddol hudolus.
“Roedd presenoldeb ein gwyrth fach ni, Poppy, ar achlysur teuluol mor bwysig yn golygu cymaint inni, ac roedd y perfformiad annisgwyl gan Gôr Meibion Pendyrus yn goron ar y cyfan - roedd yr olwg ar wyneb Steph wrth iddyn nhw ddechrau canu’n dweud y cyfan!”
Dywedodd Gwydion Griffiths, Pennaeth Marchnata Cadw:
“Mae dwsinau o gyplau’n dyweddïo yng Nghastell Coch bob blwyddyn felly roedd yn bleser cyfrannu at ddyweddïad cyntaf 2020 a bod yn dyst iddo.
“Ar ran Cadw, hoffwn ddymuno oes o hapusrwydd i’r cwpl hapus a’u teulu, a dwi’n siŵr y byddan nhw’n cofio’n annwyl am safle hanesyddol mwyaf rhamantus Cymru am byth. Gobeithio y bydd dyweddïad annisgwyl heddiw yn sbarduno dychymyg cyplau yng Nghymru a thu hwnt - yn enwedig wrth inni agosáu at Ddydd San Ffolant a diwrnod traddodiadol cynnig priodas mewn Blwyddyn Naid, sef 29 Chwefror!”
Mae Castell Coch yn enwog fel safle treftadaeth mwyaf rhamantus Cymru, ac mae ar gael i’w logi fel lleoliad priodas, gan roi cyfle i gyplau drawsnewid eu priodas i mewn i stori dylwyth teg go iawn. Am ragor o wybodaeth, ewch i Priodasau Castell Coch