Gwirfoddolwyr Plas Mawr yn ennill Gwobr Marsh yr Amgueddfa Brydeinig ar lefel Cymru
Mae’n bleser gan Cadw rannu’r newyddion mai gwirfoddolwyr Tŷ Elisabethaidd Plas Mawr yw enillwyr Gwobr Marsh 2021 ar lefel Cymru i Wirfoddolwyr dros Ddysgu Mewn Amgueddfeydd.
Cafodd y wobr o fri ei chyflwyno i’r gwirfoddolwyr, ynghyd ag enillwyr eraill o bob cwr o’r DU, mewn seremoni yn yr Amgueddfa Brydeinig ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.
Yn ystod 2021, pan oedd cymaint o ansicrwydd a phan oedd cyn lleied o addysg yn cael ei chyflwyno ar safleoedd treftadaeth, daeth gwirfoddolwyr Plas Mawr ynghyd i ddarparu dull arloesol o rannu â thros dri chant o blant, dros gyfnod o bum diwrnod, y mwynhad sydd i’w gael o ymweld â’r Tŷ Elisabethaidd hardd.
Sut y gwnaethant lwyddo i wneud hynny? Daethant at ei gilydd i ffilmio a chyfarwyddo dwy ffilm fer a serennu ynddynt, ac i greu’r holl wisgoedd a’r holl bropiau.
Cafodd y ffilmiau hynny eu cyflwyno’n rhithiol mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, yn rhan o’r Ŵyl Hanes Cymru i Blant. Roedd y ffilmiau byrion gwych yn adrodd hanes teulu’n paratoi ar gyfer parti yn Oes Elisabeth. Roedd hynny’n cynnwys ymolchi a gwisgo a chael gwers ddawnsio cyn bod y gwesteion yn cyrraedd, ac roeddent hyd yn oed yn annog y plant i gymryd rhan yn y dawnsio ac i gael eu parti eu hunain yn eu hysgolion.
Roedd gan y ffilm actor byw a oedd yn sôn am yr hyn a oedd yn digwydd yn y ffilm, felly roedd y profiad rhithiol yn brofiad unigryw i’r dysgwyr ifanc.
Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr yn gwneud mwy na’r disgwyl yn gyson i gynorthwyo’r Tŷ, eu cyd-wirfoddolwyr, yr ymwelwyr a’r gymuned: drwy rannu sgiliau ac annog cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau hanes cyfoethog ein gorffennol. Maent yn llenwi Tŷ Tuduraidd Plas Mawr â bywyd, brwdfrydedd a gwybodaeth.
Da iawn, bawb ym Mhlas Mawr!
Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli gyda Cadw, dilynwch y ddolen gyswllt ganlynol: Gwirfoddoli | Cadw (llyw.cymru)
Bob blwyddyn, mae’r Amgueddfa Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr ar draws y Deyrnas Unedig, drwy’r Wobr i Wirfoddolwyr dros Ddysgu mewn Amgueddfeydd.
Gwobrau Marsh | Yr Amgueddfa Brydeinig
Mae’r wobr yn dathlu cyflawniadau a chyfraniad gwirfoddolwyr mewn amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, gan gydnabod eu hymroddiad, eu blaengaredd a’u rhagoriaeth wrth ymgysylltu â’r cyhoedd.