Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Bydd digon i gadw teuluoedd yn ddiddig dros hanner tymor mis Mai, wrth i Cadw gyflwyno rhaglen lawn dop o ddigwyddiadau mewn cestyll, abatai a henebion o Fôn i Fynwy. 

Dewch i ymgolli'n lân yng ngorffennol Cymru. Mae ystod eang o ddigwyddiadau wedi’u trefnu rhwng dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 31 Mai, o weithdai rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol - y cyfan wedi'i gynllunio i ennyn chwilfrydedd a dod â hanes Cymru yn fyw.

Gyda gweithgareddau'n amrywio o ysgol farchogion a gweithdai difyrwyr, i lwybrau antur a chreaduriaid swigod, mae rhywbeth at ddant pawb dros y gwyliau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cadw, Kate Roberts:
“Mae hanner tymor y Sulgwyn yn gyfle perffaith i deuluoedd fynd allan i archwilio'r hanes anhygoel sydd ar garreg eu drws yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen eleni wedi'i chynllunio i fod yn ymarferol, yn ddifyr ac yn hwyliog dros ben, gan roi cyfle i ymwelwyr o bob oed gysylltu â gorffennol ein cenedl a threulio amser o safon gyda'i gilydd yn yr awyr agored.

“Gyda mynediad am ddim i blant gydag unrhyw oedolyn sy'n aelod o Cadw, mae'n opsiwn sy’n rhoi gwerth am arian i deuluoedd sy'n trefnu diwrnodau allan dros y gwyliau. Mae aelodau Cadw yn mwynhau mynediad diderfyn i dros 130 o leoliadau hanesyddol ledled Cymru, ochr yn ochr ag ystod o fanteision unigryw, sy'n ei gwneud hi'n haws nag erioed i ddysgu a darganfod rhywbeth newydd.”


Gyda dros 20 o ddigwyddiadau ymlaen dros y gwyliau, mae uchafbwyntiau’r hanner tymor yn cynnwys:

Y De

Bingo Castell Cas-gwent 

Dydd Sadwrn 23 Mai - Dydd Sul 31 Mai, 10am - 4pm

Dewch i grwydro a chwilio am gliwiau yn yr her bingo hon sy'n addas i'r teulu cyfan ar dir y Castell. Yn llawn ffeithiau diddorol ac addas i bob oed.

Llwybr Plant Gemau’r Llengoedd (Baddonau Rhufeinig Caerllion) 

Dydd Sadwrn 23 Mai - Dydd Sul 31 Mai, 10am - 4pm

Dilynwch lwybr y plant i ddarganfod sut oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio tlysau fel symbol o chwaeth a statws, a dysgwch y stori ryfeddol y tu ôl i'r 88 o emfeini a ddarganfuwyd gan archeolegwyr yn nraeniau'r baddondy hynafol ar ôl llithro o afael eu perchnogion ganrifoedd maith yn ôl.

Dirgelwch Llofruddiaeth Ganoloesol (Castell Rhaglan)

Dydd Sul 24 - Dydd Llun 25 Mai, 11am-3.30pm

Dewch i gloddio am gyfrinachau a datrys trosedd iasol mewn digwyddiad y gallwch ymgolli ynddo yn un o gestyll mawreddog Sir Fynwy. Defnyddiwch eich sgiliau ditectif wrth gasglu cliwiau a chanfod y gwir - gyda gwobrau i'r sawl sy'n datrys y dirgelwch. 

Diwrnod Cerddoriaeth Ganoloesol (Abaty Tyndyrn)

Dydd Sadwrn 30 Mai - Dydd Sul 31 Mai 10am-4pm

Dewch i gael eich swyno gan gerddoriaeth ganoloesol, o alawon rhamantus caneuon serch y trwbadwr i gyfansoddiadau cysegredig i'r Forwyn Fair. Profiad cyfareddol lle bydd ymwelwyr nid yn unig yn gweld cyfoeth o offerynnau hanesyddol ond hefyd yn eu clywed yn dod yn fyw.

Y Gogledd

Garsiwn y Castell a Saethwyr y Ddraig Goch (Castell Caernarfon) 

Dydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Mai 11am - 4pm

Dewch i Gastell Caernarfon i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys dysgu sgiliau canoloesol gyda Garsiwn y Castell neu roi cynnig ar saethyddiaeth gyda Saethwyr y Ddraig Goch.

Dynion Arfog (Castell Biwmares)

Dydd Sadwrn 23 – Dydd Llun 25 Mai, 10am – 5pm

Bydd Castell Biwmares yn ferw gwyllt wrth i farchogion brwydrol gymryd drosodd ar gyfer rhaglen lawn o brofiadau canoloesol sy'n addas i'r teulu cyfan. Gall ymwelwyr hyfforddi yn ysgol y marchogion, rhoi cynnig ar glefydda a gwylio arddangosfeydd ymladd byw, ochr yn ochr â dysgu sgiliau syrcas dan arweiniad difyrwyr, adrodd straeon, crefftau traddodiadol ac arddangosiadau hanes byw. Gyda cherddorion crwydrol yn dod â'r castell yn fyw, mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod i’w gofio.

Y Plantagenetiaid  (Castell Harlech)

Dydd Sadwrn 23 - Dydd Llun 25 Mai, 11am-4pm

Bydd bywyd y tu fewn i furiau'r castell yn dod yn fyw gydag arddangosiadau o geffylau a chyfarpar, sioe saethyddiaeth, dawns a chân. Tipyn o sioe ac addysg i'r teulu cyfan! Dewch i gael profiad hanes byw dros benwythnos gŵyl y banc yng nghwmni’r Plantagenetiaid canoloesol yn Ardudwy.

Y Gorllewin 

Ffair Grefftau Ystrad Fflur (Abaty Ystrad Fflur) 

Dydd Sul 24 Mai 11am – 3pm

Ar y Sulgwyn, bydd Abaty Ystrad Fflur yn cynnal ffair grefftau fywiog sy'n cynnwys celf, crefftwaith a chynnyrch lleol, ochr yn ochr â gweithgareddau addas i deuluoedd, teithiau tywys a mwy.

Bubbleman Rainbow Gecko (Castell Talacharn) 

Dydd Sadwrn 30 - Dydd Sul 31 Mai 2026 11am - 4pm

Bydd Bubbleman a'r Bubble Faerie yn dod â hud a lledrith chwareus i'ch diwrnod mewn perfformiad cwbl ryngweithiol, gyda swigod enfawr, anifeiliaid swigod a hyd yn oed creadigaethau wedi'u rhewi. Gall ymwelwyr o bob oed ymuno â'r hwyl, dysgu ambell dric a mynd â'u hatgofion llawn swigod eu hunain ’nôl adref.

Y Canolbarth

Llwybr Antur Tre-tŵr  (Llys a Chastell Tre-tŵr)

Dydd Sadwrn 23 Mai a Dydd Sul 31 Mai 10am – 4.30pm

Camwch i Lys a Chastell Tre-tŵr, Powys, lle mae dirgelwch chwareus yn aros amdanoch wrth i ymwelwyr chwilio am ddrysau bach cyfrinachol sydd wedi'u cuddio ar hyd a lled y tŷ a'r gerddi. Mae pob darganfyddiad yn agor y drws i fywyd canoloesol, gan wneud y daith ryngweithiol hon yn antur hwyliog a diddorol i deuluoedd ac archwilwyr ifanc.

Mae digwyddiadau eraill yn lleoliadau hanesyddol Cadw yn cynnwys:

Y De

Y Gogledd

Y Canolbarth

Y Gorllewin

I'r rhai sy'n awyddus i fanteisio ar arlwy hanner tymor mis Mai, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i'r digwyddiad dan sylw a mynediad diderfyn i dros 130 o fannau hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog y genedl. Mae plant hefyd yn mynd am ddim gydag unrhyw aelodaeth oedolyn.

Bydd detholiad o lefydd hanesyddol mwyaf diddorol Cadw – gan gynnwys Castell Oxwich, Castell Cilgerran, Capel y Rug a Hen Eglwys Llangar – hefyd ar agor ar gyfer teithiau tywys gydol yr haf. Rhagor o fanylion: https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/ymunwch-a-cadw-am-gyfres-o-deithiau-tywys-yn-rhai-on-mannau-hanesyddol-mwyaf