Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

I goffáu Owain Glyndŵr, sy’n cael ei ystyried yn Dywysog olaf Cymru gan lawer, bydd plant yn cael mynediad rhad ac am ddim i holl leoliadau Cadw ar hyd a lled Cymru.

Ddydd Sadwrn 14 Medi a dydd Sul 15 Medi, bydd croeso i deuluoedd ymweld â henebion a dysgu am hanes y genedl – gan gynnwys Owain Glyndŵr – a chwaraeodd ran flaenllaw wrth lunio hanes Cymru.

Dethlir Diwrnod Owain Glyndŵr yn flynyddol ar 16 Medi i gofio cyhoeddi’r arwr cenedlaethol Cymreig yn Dywysog Cymru ym 1400. Mae'r dyddiad hwn yn symbol o ddechrau 'gwrthryfel Glyndŵr' hefyd - gwrthryfel pymtheg mlynedd a geisiodd adfer annibyniaeth Cymru o afael Brenin Harri IV o Loegr. Er mai aflwyddiannus fu’r ymdrech yn y pen draw, llwyddodd i adfer ymdeimlad o hunaniaeth a sofraniaeth i bobl Cymru.

Yn ystod ei wrthryfel, ymosododd Owain Glyndŵr ar lawer o gestyll enwog Cadw, gan gynnwys Caernarfon, Coety, Dinefwr a Chydweli. 

Dros y penwythnos, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws rhai o leoliadau eraill Cadw:

Dydd Sul 15 Medi, 11am-4pm

Cyfle i ymwelwyr glywed hanes y gwrthryfelwr mwyaf annhebygol hwn, wrth fynd am dro o amgylch un o'r cestyll yr ymosododd arnynt, a darganfod pam mae ei enwogrwydd yn parhau hyd heddiw.

Dydd Sul 15 Medi, 11am-4pm 

Llwyddodd Owain Glyndŵr i gipio Castell Harlech ym 1404.  Ymunwch â Marchogion Ardudwy yn y lleoliad eiconig hwn i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr. 

Dydd Sul 15 Medi, 11am-4pm

Ymunwch â storïwyr gwych Cadw, wrth iddynt ddod â chwedl Glyndŵr yn fyw trwy gyfrwng stori, cerdd a chân, a gweithgareddau amrywiol i'r plant hefyd. 

Dydd Llun 16 Medi, 11am-4pm

Dewch i archwilio hanes y Safle Treftadaeth y Byd hudolus hwn a dysgu sut mae tywysogion Cymru (fel Owain Glyndŵr) yn cydblethu â stori'r castell hwn.   

Mae'r cynnig 'mynediad am ddim i blant' yn rhan o ddathliadau 40 mlwyddiant Cadw – carreg filltir arwyddocaol wrth i Cadw barhau â'r genhadaeth o warchod lleoedd hanesyddol Cymru gan ysbrydoli ac ennyn diddordeb cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn hanes cyfoethog y genedl. 

Dywedodd Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes: 

“Mae costau byw yn dal i gael effaith ar deuluoedd, felly trwy gynnig mynediad am ddim i blant ar draws ein henebion godidog, rydyn ni’n gobeithio annog pobl i ymweld â lleoliadau Cadw i gael blas gwirioneddol ar hanes helaeth Cymru.

“Mae gan bob lleoliad Cadw stori unigryw i'w hadrodd. Yn wir, fe wnaeth llawer ohonyn nhw lywio gwrthryfel Owain Glyndŵr, ac er i’r ymgyrch fethu yn y pen draw, mae ei waddol yn para mewn nifer o leoliadau, yn cynnwys rhai Cadw. Mae’r lleoliadau hanesyddol hyn yn dyst i'w ddycnwch a'i wladgarwch.

“Gobeithio y bydd y penwythnos hwn i goffáu ei fywyd a'i etifeddiaeth yn rhoi cipolwg ar ein gwreiddiau dwfn fel cenedl - gan wneud ein treftadaeth gyfoethog yn hygyrch i bawb.”

Telerau ac amodau Am Ddim i Blant: