Skip to main content
Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu
Wedi ei gyhoeddi

Heddiw (19 Mehefin), fel rhan o brosiect tirwedd archaeoleg gyhoeddus Bryn Celli Ddu dan arweiniad Cadw a Phrifysgol Metropolitan Manceinion mae archaeolegwyr wedi rhyddhau byd Minecraft newydd o’r safle, a hynny ynghanol y pandemig coronafeirws.

Pwy sydd angen Google Street View pan allwch chi archwilio’r beddrod enwog trwy Minecraft? Mewn tro gwirioneddol ryngweithiol ar y daith digidol, bydd fersiwn digidol o Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn yn caniatáu i bobl ifanc archwilio un o’r henebion Neolithig mwyaf trawiadol yn Deyrnas Unedig: beddrod cyntedd enwog Ynys Môn.

Defnyddiwyd y beddrod cyntedd fel lleoliad i gladdu pobl tua 3000CC, ond roedd gan y safle hanes llawer hirach, ac mae’n bodoli mewn tirwedd sy’n llawn tystiolaeth o weithgaredd defodol cynhanesyddol.

Efallai nad ydi’r feddrod enwog o Gymru mor adnabyddadwy â Chôr y Cewri, ond mae ganddo aliniad tebyg lle mae’r cerrig yn cyd-fynd â'r haul ar ddiwrnod hiraf yr haf.

Trwy adeiladu’r cyntedd hir ym Mryn Celli Ddu, gall yr haul ymgripio ar ei hyd i’r siambr fewnol, foment atmosfferig nad yw llawer byth yn ei anghofio.

Mae cydweithio gyda’r cymuned leol wedi bod yn ganolog i’r prosiect archeoleg gyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf. Bob blwyddyn, mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn rhan o’r cloddiadau; mae diwrnodau agored wedi digwydd; ynghyd ag ymweliadau ysgol ac arddangosfeydd amgueddfeydd.

Fodd bynnag, oherwydd y pandemig coronafirws, gorfodwyd y prosiect i ganslo’r holl waith cloddio, arolygu ac allgymorth ar gyfer tymor 2020. Er bod hyn yn drueni mawr, rhoddodd gyfle i gael ffyrdd mwy dychmygus o gysylltu pobl â'r gorffennol cynhanesyddol.

Gobeithio hefyd y bydd y profiad newydd yn cynnig ffordd arall i bobl ddathlu Hirddydd Haf eleni (20 Mehefin). Mae hwn yn ddathliad blynyddol sydd fel arfer yn denu cannoedd o ymwelwyr i’r safle i weld pelydryn rhyfeddol o heulwen yn alinio â mynedfa’r beddrod ac yn goleuo’r siambr.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19 ac yn unol â chyngor ac arweiniad Llywodraeth Cymru, bydd Bryn Celli Ddu ar gau dros y penwythnos. Ni fydd mynediad i ymwelwyr nac i unrhyw gasgliad o bobl a fydd yn dod ynghyd i ddathlu hirddydd haf.

Mae profiad newydd Bryn Celli Ddu Minecraft bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru, trwy borth ysgol Hwb Cymru, sy’n darparu mynediad am ddim i blant ysgol i’r Rhifyn Addysg o Minecraft. Gall ysgolion ledled Cymru, a’r DU, nawr lawrlwytho’r byd i’w Rhifynnau Addysg o Minecraft a chaniatáu i ddisgyblion gael mynediad i’r profiad.

Ma’r byd yn tywys y gwyliwr ar daith trwy dirwedd Bryn Celli Ddu, gyda’i brif feddrod cyntedd, mynwent o garneddau, paneli celf garreg a thŷ Neolithig yn seiliedig ar dystiolaeth o Lanfaethu.

Mae’r Profiad Minecraft ar gael ar gyfer pob fersiwn o Minecraft ond gwiriwch pa un rydych chi'n ei ddefnyddio cyn i chi ei lawrlwytho.

Ar gyfer athrawon a phlant ysgol sydd â mynediad at Minecraft Education Edition:

Cliciwch Yma am fersiwn Cymraeg

Cliciwch Yma am y fersiwn Saesneg

I ddefnyddwyr y rhifyn masnachol (y talwyd amdano) o Minecraft cliciwch yma

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gosod a defnyddio Minecraft Worlds ar gael yma

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect Minecraft ar gael ar wefan Canolfan Hanes a Threftadaeth Gyhoeddus Manceinion: yma.