Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Beddrod Neolithig eiconig sydd â chyfrinach nefolaidd
Dau safle mewn un, mewn gwirionedd, yw Bryn Celli Ddu, sef un o dirnodau cynhanes enwocaf Ynys Môn. Yn y cyfnod Neolithig cynnar (Oes Newydd y Cerrig), adeiladwyd hengor (clawdd a ffos) yn cau cylch o gerrig, a fyddai’n cael ei ddisodli’n ddiweddarach gan feddrod siambr islaw tomen yn mesur hyd at 85 troedfedd /26m ar ei draws. Y tu mewn, mae tramwyfa hir, gul yn arwain at siambr wythonglog 8 troedfedd/2.4m ar ei thraws, lle canfuwyd arteffactau fel esgyrn dynol, pennau saethau a cherrig cerfiedig.
Ond dim ond unwaith y flwyddyn y gellir gweld nodwedd fwyaf anarferol Bryn Celli Ddu. Wrth i’r haul godi ar heuldro’r haf (diwrnod hiraf y flwyddyn) mae golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn.
Prisiau
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Cod post LL61 6EQ
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.