Menywod Mentrus Cymru
Mae llyfrau hanes Cymru’n lawn dop o arwyr eithriadol — o sylfaenydd y GIG, Aneurin Bevan i’r arweinydd i’r 14eg-ganrif Owain Glyndŵr.
Ond beth am y menywod ysbrydoledig sydd wedi helpu i roi ffurf ar ein gwlad?
O’r ymladdwraig ganoloesol ffyrnig, Gwenllïan, i’r awdures o’r ugeinfed ganrif, Dr Kate Roberts, mae gan fenywod Cymru ddoe gynifer o straeon i’w hadrodd… A’n bwriad ni yw eu rhannu.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (08 Mawrth) fe fwrion ni’r cwch i’r dŵr, drwy ddatgan am gyhoeddi llyfr hanes ffeministaidd newydd sbon ar gyfer plant.
O dan y teitl ‘Menywod Mentrus Cymru’, mae’r llyfr yn adrodd straeon deuddeg o fenywod o Gymru ddoe a heddiw — gan gynnwys yn eu plith Santes Elen, sylfaenydd eglwysi yng Nghymru’r bedwaredd ganrif, Cranogwen, y bardd a’r capten llong a anwyd yn 1839, a Hayley Gomez MBE, sydd ar hyn o bryd yn Athro Astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Darluniwyd y llyfr gan yr artist Cymreig ar ei phrifiant, Efa Lois, ac mae hefyd yn cynnwys portreadau o hoff gymeriadau hanesyddol benywaidd Cymru, wedi’u dychmygu fel y gallent fod yn yr 21ain Ganrif — er enghraifft, Gwenllian fel ymgyrchydd hawliau menywod a Siwan yn wleidydd o Gymru.
Mae’r cyfan hyn yn rhan o’n hymgyrch Ailddarganfod Hanes, a chynlluniwyd y dathliad hwn o’r hen a’r newydd er mwyn cynnig cipolwg ar ragoriaeth wych menywod ar hyd yr oesoedd — a thrwy hynny annog cenedlaethau’r dyfodol o fenywod ysbrydoledig Cymru i droedio’u llwybrau cyffrous eu hunain.
Mae modd archebu llyfr Menywod Mentrus Cymru am £2.95 yn unig.
Cliciwch yma i gadw eich copi nawr.
Cliciwch yma i weld chwe detholiad o’r llyfr, ochr yn ochr â phortreadau o’n harwresau Cymreig gwych…