Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw wedi cyhoeddi ystod o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu sy’n cael eu cynnal ar nifer o’i safleoedd hanesyddol dros benwythnos gŵyl banc y Pasg eleni (8–10 Ebrill 2023).

O helfeydd wyau Pasg mewn abatai canoloesol i arddangosfeydd ymladd gan farchogion mewn cestyll hanesyddol, mae dros 20 o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar safleoedd Cadw ledled Cymru, gan gynnig adloniant i’r teulu cyfan.

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos gŵyl banc prysur fydd y Penwythnos Pasg Canoloesol yng Nghastell Biwmares (8–9 Ebrill), a fydd yn cynnwys arddangosfeydd hanes byw, gyda marchogion yn ymladd, a saethyddiaeth, yn ogystal â gweithgareddau canoloesol eraill gan gynnwys pentref pebyll hanesyddol gyda choginio, masnachu a chrefftau canoloesol.

Ar Sul y Pasg ei hun (9 Ebrill), gall teuluoedd alw heibio i fwy na 10 o henebion trawiadol Cadw i gymryd rhan mewn llwybrau a helfeydd wyau Pasg a bydd gwobrau siocled ar gael i’r ymwelwyr ieuengaf.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden:

“Bydd ein henebion ysblennydd ar agor dros benwythnos y Pasg, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl ddefnyddio penwythnos gŵyl y banc i ddarganfod y gorau o Gymru yn ystod Blwyddyn y Llwybrau. 

“Gyda nifer o’r safleoedd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau bywiog, gan gynnwys ar Sul y Pasg ei hun, bydd teuluoedd yn gallu cael blas ar eu treftadaeth mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Rydym yn sicr y bydd ein henebion yn bodloni disgwyliadau’r rheini sy’n dod i Gymru i chwilio am hanes eleni”.

O gyfarfod marchogion a sgweieriaid yng Nghastell Harlech i ganfod chwedlau Cymru yng Nghastell Cricieth., I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau tymhorol Cadw ewch i...

Be sy'n digwydd

I’r rheini ohonoch sydd am wneud y mwyaf o’r digwyddiadau sydd ar y gweill, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau, a mynediad digyfyngiad i dros 100 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru.

Ymunwch