Mae Penwythnos Hwyl y Pasg Castell Biwmares yn ôl am benwythnos llawn hwyl i bawb!
Mae'r castell yn croesawu marchogion rhyfelgar a fydd yn portreadu bywyd fel yr oedd yn ôl yng Nghymru'r oesoedd canol.
Dewch i ymuno â'r hwyl, a dysgu sut roedd marchogion yn paratoi ar gyfer brwydr, sut yr oedd arfwisg yn cael ei gwisgo a sut y cafodd arfau eu defnyddio yn erbyn marchogion arfog.
Gwyliwch y saethwyr yn dangos eu sgiliau gyda bŵau a darganfyddwch pam yr oedd pobl yn eu hofni cymaint ar faes y gad.
Ymunwch â gweithdai syrcas ar gyfer yr hen a'r ifanc i roi cynnig ar driciau newydd, a gwyliwch cellweiriwr y castell wrth iddo eich diddanu gyda'i driciau anturus a fydd yn siŵr o’ch syfrdanu.
Gwrandewch ar y cerddorion wrth iddyn nhw grwydro'r castell yn chwarae cerddoriaeth plygain hardd, a chadwch lygad allan am yr adar ysglyfaethus, gydag arddangosiadau hedfan a sgyrsiau am sut roedden nhw’n arfer cael eu defnyddio i hela.
Cadwch lygad allan am ddienyddiwr y castell, gyda'i offer arteithio a straeon am sut y cafodd cyffesion eu gwasgu o garcharorion.
Bydd Helfa Wyau Pasg ar y ddau ddiwrnod, lle gallwch ddod o hyd i'r cliwiau, meddwl am atebion a dianc o'r castell i hawlio'ch gwobr.
Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda brwydr fawr rhwng Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton, gyda'u dynion a'u saethwyr. Fydd pethau ddim yn mynd yn dda i’r Capten Horton, a bydd angen iddo recriwtio mwy o farchogion o'r dorf! Bydd plant tair ar ddeg oed ac iau yn cael eu gwahodd i ymuno â rhengoedd y Capten i helpu i drechu Syr Gerard a'i farchogion.
Categori | Price |
---|---|
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 09 Ebr 2023 |
10:00 - 17:00
|
Llun 10 Ebr 2023 |
10:00 - 17:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£8.70
|
Teulu* |
£28.20
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.10
|
Pobl hŷn (65+) |
£8.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |