Mwynhewch h-ŵy-l y Pasg gyda digwyddiadau Cymru ledled Cymru
Mae Cadw wedi cyhoeddi rhaglen o weithgareddau mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gan wahodd ymwelwyr o bob cwr i gamu yn ôl mewn hanes a dathlu treftadaeth Cymru dros y Pasg a’r gwanwyn eleni.
P’un ai yn ddiwrnod o hwyl i’r teulu, antur drwy hanes neu’n ddiwrnod o fwynhau golygfeydd, mae rhaglen digwyddiadau’r Pasg eleni yn cynnig rhywbeth i bawb.
Dywedodd Prif Weithredwr Cadw, Kate Roberts:
“Mae gwyliau’r Pasg yn gyfle gwych i deuluoedd archwilio ein hanes rhyfeddol. Rydyn ni wedi llunio calendr amrywiol a deniadol o ddigwyddiadau sy’n annog ymwelwyr i fynd allan i’r awyr agored, ymgysylltu â threftadaeth Cymru, a threulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd.
“Gall plant gael mynediad am ddim ag unrhyw oedolyn sy’n aelod, sy’n fargen i deuluoedd sydd eisiau diwrnod allan am bris rhesymol. Mae aelodau Cadw yn mwynhau mynediad diderfyn i 132 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â buddion unigryw, sy’n ei gwneud hi’n haws nag erioed i ddysgu am hanes ein cenedl.”
Dyma flas o’r hyn sydd ar gael i ymwelwyr ar hyd a lled Cymru dros y Pasg eleni:
Gorllewin Cymru
Jim y Jyglwr, Castell Cydweli
Dydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Mawrth, 11:00-16:00
Ymunwch a Jim y Jyglwr am ddiwrnod llawn hwyl yng Nghastell Cydweli. Cymerwch ran yn yr ysgol i farchogion gwirion rhwng 11am–1pm, a chwblhau tair her hwyliog. Neu rhowch gynnig ar sgiliau syrcas fel jyglo, diabolo a throelli platiau rhwng 1.30pm a 4pm – cyfle perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Cwis Pasg Cydweli, Castell Cydweli
Dydd Llun 30 Mawrth tan ddydd Sul 5 Ebrill, 09:30-17:00
Archwiliwch Gastell Cydweli mewn ffordd newydd dros y Pasg drwy ddilyn llwybr cwis hwyliog i’r teulu. Chwiliwch am gymeriadau’r Pasg o gwmpas tir y castell a dod o hyd i’r gair cyfrinachol. Ar ddiwedd y llwybr mae cyfle i chi ymweld â’r siop rhoddion i ddathlu’ch sgiliau datrys dirgelion a hawlio gwobr arbennig.
De Cymru
Hwyl y Pasg, Castell Caerffili
Dydd Llun 30 Mawrth tan ddydd Llun 6 Ebrill, 11:00-15:00
Dewch am ddiwrnod llawn h-wy-l i’r teulu i Gastell Caerffili, a mwynhau archwilio llwybrau a chwilio am wyau dreigiau dros wyth o ddiwrnodau. Bydd peintiwr wyneb ar y safle o 3 i 6 Ebrill, ynghyd â chrefftau a straeon – felly digon i gadw’r plant yn brysur yn ystod y gwyliau. Prynwch eich tocyn ymlaen llaw ar-lein i gadw’ch lle.
Twrnamaint Pasg Canoloesol, Castell Rhaglan
Dydd Sadwrn 4 tan ddydd Llun 6 Ebrill, 10:00-16:00
Ymunwch â marchogion a sgweiariaid Castell Rhaglan am Dwrnamaint Pasg Canoloesol bywiog, ynghyd ag arddangosfeydd cleddyfau, gwaywffyn a bwyelli sy'n dod â hanes rhyfelau’r 13eg ganrif yn fyw. Crwydrwch y gwersyll canoloesol, mwynhewch sgiliau trawiadol Jim y Jyglwr ac ymgollwch yn yr awyrgylch yn ystod y penwythnos teuluol hwn.
Torrwch y Cod dros y Pasg, Castell Cas-gwent
Dydd Sadwrn 28 Mawrth tan ddydd Llun 6 Ebrill, 10:00-16:00
Dyma’ch cyfle i ddatrys posau yng Nghastell Cas-gwent, lle mae Arglwydd direidus y gaer wedi cuddio ei wyau Pasg gwerthfawr. Ewch i ddarganfod y tyrau, muriau a’r corneli cudd o gwmpas y castell a dod o hyd i gliwiau all eich helpu i agor y clo er mwyn mwynhau gwobr o ddanteithion siocled.
Hwyl y Pasg, Castell Coch
Dydd Llun 30 Mawrth tan ddydd Llun 6 Ebrill, 11:00-15:00
Camwch i h-wy-l y Pasg yng Nghastell Coch ar ddiwrnod arbennig i’r teulu. Dilynwch y llwybr hel sborion drwy dir y castell a mwynhau mwy o weithgareddau dros ŵyl y banc gan gynnwys peintio wynebau o 3-6 Ebrill a straeon ar 4-5 Ebrill. Rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw’ch lle ymlaen llaw.
Llwybr Hwyaid, Baddondy Rhufeinig Caerllion
Dydd Sadwrn 28 Mawrth tan ddydd Sul 12 Ebrill, 10:00-16:00
Dewch i fwyhau hwyl y Pasg ym Maddondy Rhufeinig Caerllion a dilyn llwybr teuluol llawn sbri. Mae croeso i anturwyr ifanc ddod i chwilio am hwyaid sy’n cuddio ar hyd y llwybr o gwmpas y pyllau hynafol, gan ddatgelu hanesion diddorol o gyfnod y Rhufeiniaid ar yr un pryd. Os ydych yn cwblhau’r llwybr, bydd gwobr fach i chi ei chymryd adref.
Canolbarth Cymru
Hwyl y Pasg yn Nhretŵr, Llys a Chastell Tretŵr
Dydd Sadwrn 4 i ddydd Llun 6 Ebrill, 10:00-16:30
Mae Rhys y Gwningen wedi gwasgaru ei wyau Pasg o amgylch Llys a Chastell Tretŵr ac mae e wedi anghofio yn ble. Dilynwch ei lwybr drwy'r llys a'r castell, gan ddatgelu cliwiau ar hyd y ffordd i ddod o hyd i'r mannau cudd. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r cyfan yn derbyn gwobr fach ar ôl gorffen.
Gogledd Cymru
Hwyl Ganoloesol y Pasg, Castell Biwmares
Dydd Gwener 3 i ddydd Llun 6 Ebrill, 10:00-17:00
Mae Helfa Wyau Pasg Castell Biwmares yn dychwelyd am benwythnos bywiog a chanoloesol sydd llawn hanes byw a gweithgareddau ymdrochol. Rhowch gynnig ar weithdai syrcas, dysgwch driciau newydd, a mwynhewch berfformiadau gan ddirmygwr y castell wrth iddo berfformio styntiau beiddgar a chwareus. Cynhelir Helfeydd Wyau Pasg ar ddydd Sul 5 a dydd Llun 6 Ebrill.
Hwyl y Pasg, Castell Dinbych
Dydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Ebrill, 10:00-16:00
Dathlwch y Pasg yng Nghastell Dinbych ag arddangosfeydd canoloesol gan Osgordd y Tywysog a sioe hebogyddiaeth arbennig ddydd Sul gan SMJ Falconry. Gyda chrefftau’r Pasg a llwybr teuluol i’w cherdded hefyd, mae digon i gadw ymwelwyr yn brysur drwy gydol penwythnos gŵyl y banc.
Llwybr Cynffon Cwningen, Castell Caernarfon
Dydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Ebrill, 10:00-16:00
Bydd Llwybr Cynffon y Gwningen yn dod i Gastell Caernarfon dros y Pasg, a’n gyfle i deuluoedd grwydro un o gaerau canoloesol mwyaf trawiadol Cymru mewn ffordd hwyliog newydd. Bydd modd i ymwelwyr ddarganfod y waliau uchel, y cynteddau eang wrth chwilio am gliwiau wedi’u gwasgaru o amgylch y castell.
Helfa Wyau Pasg, Plas Mawr
Dydd Sul 5 Ebrill, 10:00-16:00
Bydd Plas Mawr yn croesawu teuluoedd ar Sul y Pasg am helfa wyau fywiog drwy ystafelloedd Elisabethaidd arbennig y Plas. Dewch i chwilio am wyau a datrys yr holl bosau. Bydd gweithgareddau tymhorol eraill hefyd ar gael drwy gydol y dydd.
Helfa Wyau Pasg, Castell Cricieth
Dydd Sul 5 Ebrill, 11:00-15:00
Dewch i fwynhau Castell Cricieth a golygfeydd godidog Bae Aberteifi, wrth gymryd rhan mewn Helfa Wyau dros Sul y Pasg. Bydd wyau wedi'u rhifo a'u lliwio a’u cuddio ar draws dir y castell, a her y teuluoedd fydd dod o hyd i bob un wrth grwydro drwy’r adfeilion hynafol.