Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Mae teuluoedd ledled Cymru sy'n chwilio am syniadau ar gyfer hanner tymor mis Chwefror yn cael eu hannog i ddarganfod lleoedd hanesyddol Cadw.

O gestyll ac abatai i henebion, mae diwrnodau allan fforddiadwy ar gael i ymwelwyr o bob oed.

Yn ôl Arolwg Ymwelwyr Tymor Brig Cadw (2025), roedd 85% a mwy o ymwelwyr wedi cael profiad da yn gyffredinol, a bron i ddau o bob pump yn dweud bod eu hymweliad â lleoliad Cadw yn well na’u disgwyliadau.  

Serch hynny, dydy llawer o bobl ddim yn ymwybodol o'r amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael yn henebion Cadw – sy’n gwneud gwyliau hanner tymor yn amser perffaith i'w darganfod.

P'un ai'ch bod chi am ddiddanu'r plant, dysgu mwy am hanes Cymru, neu fynd am dro bach gaeafol a mwynhau’r golygfeydd hyfryd, mae gan Cadw safle i siwtio pawb.

1. Diwrnod diffwdan a fforddiadwy i'r teulu

Mae safleoedd hanesyddol Cadw yn cynnig dewis gwerth chweil am bris rhesymol i deuluoedd ac unigolion sy'n chwilio am ffyrdd cost isel o fynd am dro a darganfod llefydd newydd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. Beth am fynd â'ch picnic eich hun gyda chi i'w wneud hyd yn oed yn fwy costeffeithiol, neu gallwch archebu eich tocyn ar-lein ymlaen llaw i sicrhau mynediad am bris gostyngol.

2. Antur i bawb o bob oed

Gall teuluoedd fwynhau ymweliad llawn antur, cyffro a darganfyddiadau mewn lleoliadau fel Castell Rhaglan, y castell mwyaf crand a adeiladwyd gan y Cymry, neu gaer ysblennydd Castell Biwmares ble gwelwyd marchogion a brenhinoedd amser maith yn ôl. 

Gall cyplau dreulio Gŵyl Sant Ffolant ymhlith adfeilion rhamantaidd Abaty Tyndyrn neu Abaty Glyn y Groes, gan fwynhau'r awyrgylch heddychlon a'r golygfeydd godidog sydd yno.

Yn y cyfamser, mae lleoliadau Cadw yn siŵr o gynnig ysbrydoliaeth a gwledd o dirweddau dramatig i'r ffotograffwyr a phawb sy'n mwynhau hanes. Mae rhywbeth at ddant pawb!

3. Dysgu am hanes Cymru

Mae lleoliadau Cadw yn cwmpasu canrifoedd o hanes, o aneddiadau cynhanesyddol i dreftadaeth ddiwydiannol, gan gynnig cyfle i ymwelwyr archwilio gwahanol gyfnodau o hanes y genedl. Beth am herio'ch hun a'ch teulu i ganolbwyntio ar gyfnod penodol yn ystod hanner tymor.

Mae Castell Caerffili wedi'i ailwampio yn ddiweddar, ac mae bellach yn cynnwys profiadau deongliadol helaeth sy'n dod â'r castell yn fyw. Gall ymwelwyr gamu i'r Neuadd Fawr a Phorthdy Mewnol y Dwyrain i brofi sut fyddai'r safle wedi edrych yn y 13eg ganrif.

Yn y gogledd, mae Castell Caernarfon yn ymweliad hanfodol, gyda'i arwyddocâd hanesyddol a'i statws fel un o gestyll mwyaf trawiadol Cymru sydd mewn cyflwr arbennig.

Am dipyn o hwyl a sbri ymarferol, mae Llwybr Gêm Dyfalu Baddondy Rhufeinig Caerllion yn cael ei chynnal bob dydd dros wyliau’r hanner tymor. Gall ymwelwyr arogli, cyffwrdd, a dyfalu eu ffordd o amgylch baddondy Rhufeinig go iawn, gyda’r cyfan yn dod â hanes yn fyw.

4. Gaeaf o grwydro Cymru 

Mae tirwedd ysblennydd i lawer o safleoedd Cadw, o Gastell Cas-gwent ar aber afon Hafren i Gastell Cricieth sy’n sefyll ar glogwyn uwchlaw’r môr – lleoliadau sy’n sicr o danio’r dychymyg. Ac mae ymweld â'n safleoedd yn y gaeaf yn gyfle i'w mwynhau ar adegau tawelach o’r flwyddyn, heb y torfeydd.

5. Crwydro’ch cynefin

Gyda 130 a mwy o leoliadau Cadw o Fôn i Fynwy, gallwch ddarganfod hanes ar garreg eich drws. P'un a yw'n daith fer o gartref neu'n drip penwythnos, mae heneb leol yn cynnig diwrnod allan cofiadwy, llawn hwyl, i'r teulu cyfan dros hanner tymor. 

Ac mae aelodaeth Cadw yn werth chweil i'r rheiny ohonoch sydd am ymweld dro ar ôl tro. Gall aelodau fanteisio ar fynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru gydol y flwyddyn, ynghyd â gostyngiadau unigryw mewn siopau anrhegion ac atyniadau tebyg yng ngweddill y DU. Mae mynediad am ddim i blant hefyd gydag aelodaeth oedolyn.

Mae aelodaeth ar gael i unigolion, teuluoedd a'r henoed, sy'n golygu ei fod yn ffordd hawdd a chosteffeithiol i fwynhau'r lleoliadau ysblennydd hyn ledled y wlad.