Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal yn fuan am dair noson yng Nghastell Caernarfon wrth i’r cerddor Cymreig Gruff Rhys, a’r artist laser arloesol Chris Levine berfformio première byd “Annwn”.

Mae “Annwn” yn sioe laser a cherddoriaeth arallfydol sy’n cael ei pherfformio o fewn muriau hanesyddol Castell Caernarfon. Tydi sioe fel hon erioed wedi cael ei pherfformio o fewn muriau unrhyw gastell.

Ar dir Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, y cynhelir y perfformiadau a hwn fydd eu digwyddiad diwylliannol mwyaf ac arwyddocaol yng Nghymru ers Covid.

Mae cyfraniadau sain wedi’u creu’n arbennig ar gyfer Annwn gan y cerddor  Cymreig Gruff Rhys, yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a’i arbrofi diweddaraf.  I gyfeiliant y sain, mi fydd y gynulleidfa yn cael eu trochi mewn perfformiad golau a laser ysblennydd a grëwyd gan Chris Levine.

Annwn sioe ysgafn / laser show

Mae’r profiad sain a golau wedi ei ysbrydoli gan weledigaeth Annwn. 

Bydd profiad y gynulleidfa yn para tua pedair awr a byddant yn gallu symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe. Bydd ail gymysgiadau o gerddoriaeth Gruff Rhys gan y dylunydd sain Marco Perry yn chwarae’n barhaus drwy’r noson. Ac yna hanner ffordd, bydd Gruff Rhys yn perfformio set electronig gydag elfennau byw, yn cynnwys trac newydd a cherddoriaeth o'i ôl-gatalog.

Meddai Gruff Rhys: 

Mae’r dylunydd sain Marco Perry wedi ailgymysgu traciau o’m hôl-gatalog (sy’n fwy o berswâd electronig, amgylchynol i gymysgeddau sain gofodol) -dal i weithio ar y cyfeithiad. Bydd y sioe laser a remixes Marco Perry yn chwarae’n barhaus dros 4 awr - byddaf yn chwarae set electronig amgylchynol 75 munud o hyd gydag elfennau byw o tua 8.30pm ymlaen.”

Dywed Chris Levine:

“Does dim amheuaeth nad oes dim byd tebyg i’r hyn da ni am wneud erioed wedi’i digwydd y tu mewn i waliau’r castell hwn nac unrhyw gastell arall ar y Ddaear, a bydd cyferbyniad y lleoliad hynafol a thechnoleg arloesol yn codi’r gwaith i diriogaeth swreal.

Rwy’n gyffrous i wneud hyn ac yn meddwl y bydd yn brofiad hollol anhygoel, hollol unigryw.”

I Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw a’i thîm bydd hwn yn benwythnos o ddiwylliant arwyddocaol:

"Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal Annwn, rhan o'r gyfres o ddigwyddiadau yr  iy_project a grëwyd gan Chris Levine a'i gydweithwyr. Hwn fydd ein digwyddiad diwylliannol mwyaf ac  arwyddocaol yng Nghymru ers Covid - a gyda Gruff Rhys yn ychwanegu ei sain 3D newydd anhygoel i waith laser ysbrydoledig Chris ar gyfer Castell Caernarfon, dwi'n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy."

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal i gefnogi Samariaid Cymru. Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru: 

“Rydym yn hynod gyffrous a diolchgar i dîm Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen. Mae’r digwyddiad arloesol yma yn ceisio dod â phobl at ei gilydd i rannu profiad unigryw ac mae ganddo ffocws cryf ar gysylltu pobl. Dyma un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltu efo pobl yn fodd cryf o amddiffyn pobl rhag risg hunanladdiad a chredwn y gall ddangos trugaredd newid ac achub bywydau”. 

Archebu tocynnau

Castell Caernarfon / ANNWN