Budd-daliadau aelodau Cadw
Pam ymuno â Cadw?
Mae ymuno â Cadw yn cynnig diwrnodau allan diderfyn i chi bob blwyddyn neu hyd yn oed am oes! A llawer, llawer mwy. . . .
- Mynediad diderfyn i orffennol Cymru
Fel aelod o Cadw, gallwch ymweld â’n 132 o safleoedd mor aml ag yr hoffwch a helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O gestyll i abatai, plastai i gaerau, mae gan Cadw safleoedd a fydd at ddant pob un math o aelod. Mae gennym hyd yn oed Safleoedd Treftadaeth y Byd, UNESCO!
- Ar gyfer pob math o aelod
Ydych chi’n teimlo’n angerddol am dreftadaeth? Oes gennych chi ddiddordeb mewn archaeoleg? Ydych chi’n hoff o hanes? Diwrnodau da allan? Ydych chi am fod yn rhan o deulu Cadw? Os ateboch yn gadarnhaol i un o’r rhain, yna mae aelodaeth Cadw ar eich cyfer chi. Mae hefyd yn gwneud anrheg berffaith...
- Cannoedd o ddigwyddiadau at ddant pawb
Mae aelodaeth Cadw hefyd yn cynnwys mynediad i’n rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn fel ein gwyliau canoloesol, sesiynau hanes ar waith, sesiynau rhoi cynnig ar saethyddiaeth, ailgreadau, gweithdai ymarferol a llawer mwy. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n safleoedd yn dod yn fyw dros y Nadolig, y Pasg a Chalan Gaeaf gyda’n digwyddiadau tymhorol.
- Diogelu’n treftadaeth ar gyfer y dyfodol
Mae’r holl incwm a ddaw yn sgil gwerthiant aelodaeth yn mynd yn ôl i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gan ganiatáu mynediad parhaus i’r mannau anhygoel hyn. Mae’ch cyfraniad wir yn gwneud gwahaniaeth.
Gallwch hefyd gyflwyno rhodd ariannol i Cadw yn unrhyw un o'n henebion.
Mynediad i dros 500 o eiddo hanesyddol a phalasau bythgofiadwy
Yn ogystal â chael mynediad i safleoedd Cadw, mae aelodaeth Cadw yn rhoi mynediad i safleoedd hanesyddol ledled Lloegr, yr Alban ac Ynys Manaw! Dyna i chi dros 500 o fannau hanesyddol i ymweld â nhw!
Mae manteision aelodaeth yn cynnwys:
- mynediad DIDERFYN i bob un o 132 o safleoedd Cadw
- mynediad DIDERFYN i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hanesyddol a theuluol
- mynediad HANNER PRIS i holl atyniadau English Heritage a Historic Scotland gan roi mynediad i chi AM DDIM os gwnewch chi adnewyddu’ch aelodaeth y flwyddyn nesaf
- mynediad DIDERFYN i eiddo Manx National Heritage
- cylchgrawn Arobryn Etifeddiaeth y Cymry YN RHAD AC AM DDIM, sy’n cynnwys newyddion a straeon o 132 o safleoedd Cadw
- digwyddiadau arbennig i aelodau a chynigion arbennig i aelodau fel bod gyda’r cyntaf i weld â safleoedd cloddio a chadwraeth
- cyfle cyntaf i brynu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau unigryw a theithiau cyfyngedig
- 10% oddi ar nwyddau yn siopau rhodd Cadw
- 10% oddi ar nwyddau yn siop rhodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu unrhyw safle Amgueddfa Cymru*
- 10% oddi ar gyhoeddiadau RCAHMW.*
*Amodau a thelerau ar gael ar cadw.llyw.cymru/aelodaeth
Aelodaeth oes
Dewch yn aelod oes ac ewch â phob un o’ch plant a’ch wyrion (o dan 18 oed) ac un oedolyn yn rhad ac am ddim i leoliadau Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Manx Heritage ar y diwrnod yr ymunwch. Mae aelodau oes Cadw wedi cyfrannu bron i £1 filiwn tuag at gadwraeth yn safleoedd Cadw.
Darganfyddwch fwy am aelodaeth Oes
Rhoi aelodaeth yn anrheg
Mae aelodaeth Cadw hefyd yn gwneud y rhodd berffaith ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn mynd ar antur. Rhowch yr allwedd i’ch ffrindiau a’ch teulu i deithio’n ôl mewn amser a mwynhau diwrnodau bythgofiadwy allan, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Lloegr a’r Alban hefyd.
Darganfyddwch fwy am aelodaeth rhodd
Os hoffech drafod aelodaeth Cadw ymhellach, cysylltwch â’n tîm ymroddedig ar 0800 074 3121