Skip to main content

Mynediad am ddim. Teithiau am ddim ar gyfer ein Drysau Agored.

Ymunwch â Siân Roberts i ddarganfod y straeon y tu ôl i gerrig y strwythur trawiadol hwn yn ei leoliad trawiadol yn Eryri.

Teithiwch mewn amser o’r dyddiau cyn yr adeilad i’r 21ain ganrif a darganfod pwy a beth sydd wedi gwneud y castell hwn mor enwog ac mor deilwng o fod yn rhan o safle Treftadaeth y Byd.

Daw’r castell a’i orffennol yn fyw gyda’i hanesion llawn buddugoliaethau a thrasiedïau mewn taith dywys awr o hyd o amgylch y gaer chwedlonol.

Teithiau am 11am, 1pm a 3pm.

Cod post - LL46 2YH.

Nid oes angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 28 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 29 Medi 2024
11:00 - 16:00