Cwrdd â'r Rhufeiniaid – Gŵyl Archaeoleg Prydain
Dewch i Venta Silurum ym mis Gorffennaf a chwrdd â'r Rhufeiniaid!
Bydd y Canwriad Rhufeinig Tiberius Claudius Paulinus a'i arglwyddes yn y Ganolfan Ymwelwyr yng Nghaerwent a byddant yn cynnal teithiau o amgylch y dref Rufeinig. Yn cynrychioli ein hynafiaid Celtaidd fydd Silurian Wise, gwraig a fydd yn siarad am berlysiau Celtaidd-Rufeinig ar ei stondin blanhigion.
Teithiau am 11.30am & 2.20pm.
Bydd gweithgareddau crefft i'r plant a lluniaeth ar werth yn y ganolfan ymwelwyr. Mae digon o barcio rhad ac am ddim ar gael.
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn a darganfyddwch pa ddigwyddiadau eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer eleni.
Sylwch y bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Heol Caerwent, ger Pound Lane.
Trowch i mewn i'r maes parcio rhad ac am ddim ac fe welwch chi’r adeilad ar yr ochr dde.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 26 Gorff 2025 |
10:30 - 15:30
|
Sul 27 Gorff 2025 |
10:30 - 15:30
|