Brenin didostur yn hoelio ei awdurdod
‘Longshanks’ oedd llysenw Brenin Edward I am ei fod mor dal. Gallwn dybio’n ddiogel fod un neu ddau enw llai canmoliaethus iddo gan breswylwyr Ynys Môn yn y 13eg ganrif. Ond yn ofalus iawn y buasent yn sibrwd y rheini.
Roedd yr hyn a wnaeth Edward ym Miwmares yn nodweddiadol o’r ffordd ddidostur y byddai’n hoelio ei awdurdod ar ei diriogaethau newydd yng Nghymru wedi’u trechu. Nid adeiladu cestyll yn unig a wnâi. Byddai’n creu trefi Seisnig yn gwmni iddynt – ac yn sathru dan draed ganrifoedd o ddiwylliant a hanes Cymru.
Roedd gan Ynys Môn le arbennig yng nghalonnau’r Cymry yn hir cyn meddwl hyd yn oed am Fiwmares. Dathlwyd ‘Môn Mam Cymru’ oherwydd ei hinsawdd fwyn a’i chaeau ffrwythlon. Byddai honedig ‘fasged fara Cymru’ yn helpu i gynnal y genedl a chefnogi ei hannibyniaeth.
Tua dechrau’r 13eg ganrif, tyfodd tref o’r enw Llanfaes yng nghornel de-ddwyrain Ynys Môn o dan nawdd Llywelyn Fawr. Roedd ei balas brenhinol neu lys gerllaw a sefydlodd y cyntaf o dri yn unig o frodordai Ffransisgaidd yng Nghymru yno.
Erbyn y 1280au, roedd gan dref Llanfaes borthladd brysur yn masnachu gyda threfi eraill ym Mhrydain ac ar y Cyfandir. Ond nid oedd hyn o bwys o gwbl i Frenin Edward I. Nid oedd ond filltir o’r llecyn a nodwyd ganddo ar gyfer ei dref a’i gastell newydd, Biwmares. Byddai’n rhaid cael ei gwared.
Cyn gynted ag y cyrhaeddodd byddin Edward ym 1295, dechreuasant ddymchwel Llanfaes. Deisebodd pobl gynddeiriog y dref y brenin: ‘Ni allant brynu na gwerthu fel yr arferent ac nid oes llongau’n cael glanio yn harbwr y dref. Cludwyd eu tai i ffwrdd i Fiwmares a does dim byd ar ôl.’
Ni wnaeth hynny les o gwbl. Erbyn marwolaeth Edward ym 1307 dim ond melin wynt, eglwys blwyf a’r brodordy oedd yn dal i sefyll. Gorfodwyd llawer o’r preswylwyr i ailgyfanheddu mewn ail dref newydd yn Niwbwrch 13 milltir/20km i ffwrdd.
Yn y cyfamser, buan y trechodd Biwmares ei rhagflaenydd trychinebus. Cafodd ei siarter brenhinol cyntaf ym 1296 ac erbyn 1305 roedd yn cynnwys 132 o ‘fwrdeisiaethau’ neu eiddo – ac yno felly’r fwrdeistref fwyaf yng Ngogledd Cymru. Hi oedd y dref bwysicaf ar Ynys Môn drwy gydol ei hanes bron.
Ni fynnodd unrhyw gastell newydd arall yng Ngogledd Cymru ailddosbarthu cymaint o dir. Biwmares oedd y ddolen olaf yng nghadwyn fawr cestyll Edward yn ymestyn ar hyd arfordir gogledd Cymru. Erbyn hyn, rhaid ei fod yn teimlo y gallai ymddwyn fel y mynnai.
Hyd yn oed yn ei gyflwr anorffenedig, mae Castell Biwmares yn cyfuno harddwch ei berffaith gymesuredd ag ymdeimlad llethol o rym didostur.