Skip to main content

Adeiladau Rhestredig

Canllawiau technegol

Yn y canllaw hwn

2. Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru

Mae Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru yn darparu canllawiau ar sut i nodi perygl llifogydd a pharatoi ar gyfer llifogydd posibl trwy osod mesurau diogelu. Hefyd, mae’n argymell camau gweithredu yn ystod llifogydd ac ar ôl llifogydd er mwyn lleihau difrod a risgiau.

Bwriedir Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru yn bennaf ar gyfer perchnogion tai, perchnogion busnesau bach ac eraill sy’n helpu i reoli adeiladau hanesyddol, ac mae’n egluro sut i fynd ati i ddiogelu adeiladau traddodiadol ac osgoi gwaith atgyweirio modern amhriodol yn dilyn difrod gan lifogydd.

Mae ffynonellau gwybodaeth bellach a chymorth ymarferol wedi’u rhestru ar ddiwedd y ddogfen hon.

3. Plastr Ffibrog Hanesyddol yn y DU: Canllawiau ar ofalu amdano a’i reoli

Math o waith plastr addurniadol sy’n cynnwys plastr Paris yw plastr ffibrog. Mae wedi’i gryfhau gan haenau o hesian a’i ddiogelu mewn fframwaith pren. Byddai’n cael ei ddefnyddio i efelychu plastr calch traddodiadol, wedi’i fodelu a llaw, a oedd yn ddrutach ac yn cymryd mwy o amser i’w greu. Er bod plastr ffibrog yn cael ei gysylltu’n aml a theatrau a neuaddau cerdd yn ystod yr oes Fictoraidd ac Edwardaidd, cafodd ei osod mewn amrywiaeth o adeiladau yn y DU. Fodd bynnag, nid yw pobl yn ei adnabod bob tro, ac mae wedi’i anwybyddu mewn canllawiau cadwraeth ac ymchwill dechnegol dros y degawdau diwethaf.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau dros dro ar gyfer gweithwyr cadwraeth proffesiynol a rheolwyr adeiladu sy’n gyfrifol am adeiladau a phlastr ffibrog yn y DU. Fe’i paratowyd gan Historic England mewn cydweithrediad a Historic Environment Scotland, Cadw, Llywodraeth Cymru, a’r Historic Environment Division of Northern Ireland. Mae Historic England wrthi’n ymchwilio i’r deunydd, a bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei chyhoeddi maes o law. Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar nenfydau plastr ffibrog, a allai fod mewn perygl o ddymchwel os ydynt yn cael eu hesgeuluso. Mae’r canllawiau’n dechrau drwy drafod hanes plastr ffibrog, cyn egluro sut mae’n gallu dirywio, safonau arolygu presennol, dulliau atgyweirio, ac yn olaf, rheoli adeiladau sy’n cynnwys y deunydd.

 

4. Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru

Mae Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn egluro sut i gynllunio a gwella mynediad ffisegol i adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’n defnyddio enghreifftiau go iawn, sy’n amrywio o fân waith gwella i ddatrysiadau dylunio modern o ansawdd uchel, er mwyn dangos sut y gellir cynnig gwell mynediad.

Mae hefyd yn egluro sut y gall gwelliannau o ran mynediad ystyried Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy a gyhoeddwyd gan Cadw ac mae’n nodi crynodeb o’r fframwaith rheoleiddio sy’n llywodraethu newidiadau i adeiladau rhestredig.

Nod Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yw helpu pob un sy’n berchen ar adeiladau rhestredig yng Nghymru, neu sy’n rheoli neu’n meddiannu adeiladau o’r fath. Dylai hefyd helpu’r sawl sy’n bwriadu gwneud addasiadau neu sy’n rhoi cyngor ar ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau. Mae’n arbennig o berthnasol i’r adeiladau rhestredig hynny sy’n cynnig gwasanaethau i aelodau’r cyhoedd, megis arlwyo, bancio neu siopa, neu y mae pobl yn ymweld â nhw at ddibenion hamdden, gwaith, addoli neu addysg.

Er bod Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn berthnasol yn benodol i adeiladau rhestredig, mae’r dulliau gweithredu a ddisgrifir yma yn berthnasol i unrhyw adeilad hanesyddol yng Nghymru.