Skip to main content

Adeiladau Rhestredig

Ymchwil a hyfforddiant

Yn y canllaw hwn

1. Cyngor i Lywio Adeiladau Rhestredig a Godwyd ar Ôl y Rhyfel yng Nghymru

Mae’r astudiaeth hon wedi’i chynnal i gael dealltwriaeth fanylach o adeiladau Cymru gydol y cyfnod wedi’r rhyfel rhwng 1945 a 1985. Mae’n nodi themâu allweddol yn natblygiad pensaernïol mathau amrywiol o adeiladau a wnaeth gyfraniad cryf at gymeriad pensaernïol Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

Mae llawer o bensaernïaeth y cyfnod yn edrych yn gyfoes o hyd, ond mae’r adeiladau cynharaf dros 70 oed bellach. Mae rhai enghreifftiau pwysig eisoes wedi’u dymchwel, tra bod eraill wedi gweld newidiadau sydd wedi newid eu harwyddocâd. Wrth ail-arolygu adeiladau rhestredig Cymru, a gwblhawyd yn 2005, nid oedd adeiladau o’r cyfnod hwn yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru ar y cyfan oni bai eu bod yn hŷn na 30 mlwydd oed, neu o bwysigrwydd eithriadol a dan fygythiad. Mae mwy o werthfawrogiad bellach o werth pensaernïol a hanesyddol adeiladau’r cyfnod hwn a’u cyfranogiad pwysig u gymeriad cymunedau Cymru. Nod yr ymchwil hon yw rhoi sylfaen awdurdodol i weithgarwch rhestru yn y dyfodol.

 

3. Hyfforddiant Gorfodi Adeiladau Rhestredig

Yn 2019 ac yn gynnar yn 2020, cyflwynodd Cadw raglen o bedwar digwyddiad hyfforddiant ar faterion gorfodaeth adeiladau rhestredig ar gyfer swyddogion awdurdodau cynllunio lleol. Trefnwyd y sesiynau hyn ar ôl cynnal arolwg o anghenion hyfforddiant awdurdodau lleol ar ddiwedd 2018.

Dechreuodd y gweithdai drwy amlinellu’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r pwerau gorfodi ac, ar sail hynny, trafodwyd y sefyllfaoedd lle mae angen gweithredu i ddiogelu adeiladau rhestredig a sut gellir sicrhau’r canlyniad dymunol. 

Mae’r pdf sydd ar gael i’w lawrlwytho isod yn crynhoi’r deunydd ar bwerau gorfodi a gyflwynwyd yn y sesiynau.