Skip to main content

Mae Cysgodion Tyndyrn yn cynnig noson hudolus mewn lleoliad eithriadol, taith atgofus drwy’r gosodiad ysblennydd hwn sy’n benodol i safle. Addas i bob oed.

Ymhyfrydwch ar dir yr Abaty wrth i'ch llygaid gael eu tynnu at fannau dirgel, gwrandewch ar synau nodweddiadol, mewn mannau nad yw fel arfer yn hygyrch ar ôl iddi dywyllu.

Bydd cysgodion yn dawnsio ar draws waliau, gyda thafluniadau’n bownsio ar garreg hynafol, sain harmonig a golau yn llenwi’r gofod i atgofio amser – gorffennol, presennol a’r dyfodol. Bydd fflamau glas dros dro yn codi i awyr y nos, gan anadlu bywyd i'r strwythur godidog hon.

Gŵyl Afon Dyffryn Gwy, mewn partneriaeth â Cadw ac Abaty Tyndyrn, yr artistiaid arweiniol Mark Anderson, mewn cydweithrediad â Liam Walsh ac Ulf Peterson, alcemyddion sain, golau a gofod, i greu’r digwyddiad unigryw hwn.

Bydd danteithion hydrefol blasus yn cael eu darparu gan gyflenwyr annibynnol lleol: cynheswyr gaeaf sbeislyd, siocled poeth, bwyd blasus a bar.

Drysau’n agor: 6.00pm
Digwyddiad yn dod i ben: 10.15pm

Oedolyn: £10.50 + £0.44 ffi archebu
Plentyn a Myfyriwr: £7.00 + £0.30 ffi archebu
Tocyn Grŵp / Teulu: £33.00 + £1.39 ffi archebu
Tocyn Cymorth: £0.00
Plant dan 5: £0.00

Archebwch eich tocynnau ar-lein: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/tintern/tintern-abbey-abaty-tyndryn/shadows-of-tintern-an-excavation-in-light-sound-and-fire/e-yemqlq


Prisiau

Tocynnau

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 18 Hyd 2024
18:30 - 10:15
Sad 19 Hyd 2024
18:30 - 10:15
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Abaty Tyndyrn