Skip to main content

Adeilad o ddechrau’r 19eg ganrif o fewn yr ardal gadwraeth, a adferwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r map OS cyntaf yn 1874 yn dangos yr adeilad fel Bragdy Sgwâr y Neuadd, gyda thair tafarn ar stepen ei ddrws. Cross Keys, Bull Hotel, a'r Eagles ac roedd 15 tafarn gerllaw hefyd. Mae mynedfa ganolog yn arwain at gwrt cefn, gyda'r mynedfeydd i rif 12 a 14 yn arwain i'r chwith a'r dde yn y drefn honno. Mae ganddo ail fynedfa i Stryd y Parc. Ar hyn o bryd mae'n cyflawni sawl swyddogaeth, gan gynnwys cwnsela cyfannol, newidiadau dillad, canhwyllau, balŵns, pilates/ffitrwydd/ioga a stiwdio gelf.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

12-14 Sgwâr y Neuadd, Dinbych, LL16 3NU

Y tu ôl i Lyfrgell Dinbych yng nghanol Dinbych. Gwasanaethau bws: (Arriva) X51 o Wrecsam, 51/51b Y Rhyl, (P&O Lloyd) 14 o'r Wyddgrug, (M&H) fflecsi o Henllan a Dinbych.


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00