Skip to main content

Teras o fythynnod o ddechrau’r G19 (tri yn wreiddiol, bellach wedi ei ostwng i ddau); mewn arddull Gothig chwareus ac wedi ei adeiladu o galchfaen wedi ei ysbeilio o adfeilion y castell gerllaw. Mae'r ffasâd bron yn gymesur ac mae ganddo adran ganolog gilannog a thyredau simnai allanol i'r esgyll blaen ochrog. Mae’n rhestredig oherwydd y diddordeb arbennig ynddo fel teras anarferol o ddechrau’r G19 sy'n dangos ymateb arbennig o dda i gyd-destun y safle yn ei syniadaeth a'i fanylion Gothig castellog.

Bydd y perchennog ar gael i ateb cwestiynau.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cod post - LL16 3ND.

Gwasanaethau bws 51, 52 i Ddinbych yn disgyn yn y Stryd Fawr yng nghanol y dref. Taith gerdded 150m i gyfeiriad y castell, drwy Borth Burgess.

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00