Pâr o adeiladau sydd wedi cael wyneb newydd Edwardaidd unedig. Y "Star Shop" oedd adeilad R Owen a'i Fab ar ddechrau'r ganrif hon, a hwythau’n gwerthu bwyd, grawn a blawd. Dau wyneb i ddwy siop, a’r ddau bron yr un fath yn union. Mae'r un ar y dde â 'Star Shop' mewn gwydr addurniadol yn y golau crwm uwchben. Yn y blynyddoedd diwethaf roedd yn gangen o Gymdeithas Adeiladu’r Halifax.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi 2026 gyda thaith hunan-yrru o amgylch y fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brwcws ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi 2026, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.darganfoddinbych.cymru a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire
Dinbych, LL16 3LB
///what 3words: (CYM) ///castell.ymddiddori.taranu (ENG) ///complies.fully.crumbles
Mae gwasanaethau Bysiau 51/51b a X51 yn gweithredu o'r Rhyl a Wrecsam i Ganol Tref Dinbych.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|