Drysau Agored - Amgueddfa Cwm Cynon
Mae amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr ac wedi’i lleoli ar hen safle Gwaith Haearn Gadlys. Mae'r arddangosfa barhaol yno’n archwilio hanes cymdeithasol a diwydiannol Cwm Cynon. Yn ogystal, mae dau ofod arddangos dros dro lle mae arddangosfeydd yn newid yn rheolaidd. Mae caffi ar y safle. Mae’r gofod ar gyfer y digwyddiad ar lawr cyntaf yr amgueddfa, ac mae modd ei gyrraedd drwy ddefnyddio’r grisiau neu’r lifft.
Mae Amgueddfa Cwm Cynon yn gartref i gwiltiau sy’n gysylltiedig â’r Biwro Diwydiannau Gwledig (RIB), a’u cynllun yn y 1930au i hyfforddi menywod yng Nghymoedd De Cymru i gynhyrchu cwiltiau o ansawdd uchel o un darn o ddefnydd, i’w gwerthu mewn sefydliadau yn Llundain fel Claridge’s. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i weld a theimlo’r cwiltiau hyn eich hun a dysgu am arwyddocâd cynllun yr RIB a helpodd fenywod i ennill arian ar adeg o amddifadedd economaidd. Bydd yr ymchwilydd Katherine Gough yn rhoi sgwrs am ei mam-gu, Sarah Marion Davies, a oedd yn athrawes cwiltio i’r RIB.
Cyfanswm o 25 lle, cysylltwch â’r swyddogion ymgysylltu Rhian Thomas (rhian.thoms@rctcbc.gov.uk) neu Lee Ignire (lee.ignire@rctcbc.gov.uk) i archebu lle
Amgueddfa Cwm Cynon, Heol y Depo, Aberdâr, CF44 8DL
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|