Mae Archif Ddarlledu Cymru wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cadw ac yn darparu
mynediad at dreftadaeth radio a theledu Cymru. Wedi'i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r archif yn cynnwys miloedd o oriau o raglenni sy'n adrodd hanes, diwylliant a bywyd pob dydd Cymru dros ganrif. Mae'r casgliad yn adnodd unigryw ar gyfer ymchwilwyr, cymunedau a'r cyhoedd.
Dewch i ymweld ag Archif Ddarlledu Cymru yn ystod Drysau Agored 2026. Bydd cyfle i weld deunyddiau unigryw o'r casgliadau darlledu, dysgu sut mae'r archif yn cadw rhaglenni radio a theledu Cymru, a mwynhau detholiad o glipiau sy'n adlewyrchu bywyd gwledig a chymunedau amaethyddol Cymru. Yn rhan o ddathliadau ehangach Archifau Cymru Byw, bydd y digwyddiad yn cynnig cipolwg y tu ôl i'r llen ar dreftadaeth ddarlledu Cymru.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw, trwy gysylltu â’r Llyfrgell:
www.llyfrgell.cymru/digwyddiadau
01970 632800
Archif Ddarlledu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU.
Os yn teithio o’r gogledd, trwy Fachynlleth, mae’r Llyfrgell ar y chwith wrth ddod lawr Rhiw Penglais, ychydig ar ôl y Brifysgol.
Os yn teithio o’r de, trwy Aberaeron, cymerwch yr ail allanfa ar gylchfan Penparcau er mwyn dod lawr rhiw Penparcau. Ar y cylchfan ar waelod y rhiw, cymerwch y pedwerydd allanfa tuag at Llanbadarn Fawr. Cyn mynd mewn i Llanbadarn, cymerwch y troiad I'r chwith ar hyd Ffordd Llanbadarn, gan fynd heibio Ysgol Penweddig ar eich chwith. Ar ddiwedd y ffordd yna, trowch i'r ddê fyny Rhiw Penglais. Mae’r Llyfrgell ar eich dde ar ôl Ysbyty Bronglais.
Os yn teithio ar yr A44, o Langurig, cymerwch chwith ar yr allanfa gyntaf yn Llanbadarn, a dde ar yr ail ar hyd Ffordd Llanbadarn. Byddwch yn mynd heibio Ysgol Penweddig ar y chwith, cyn ar ddiwedd y ffordd, cymryd troiad i'r ddê fyny Rhiw Penglais. Mae’r Llyfrgell ar eich dde ar ôl Ysbyty Bronglais.
Mae Gorsaf Trenau Aberystwyth wedi ei leoli yng nghanol y dref. Mae’n cymryd oddeutu 15m-20m i gerdded i'r Llyfrgell o fan yno. Mae hefyd yn bosib cael tacsis o du allan i'r Orsaf.
Mae bysus T2 a T28 yn stopio wrth Ysbyty Bronglais a’r Brifysgol, y ddau dim ond rhai munudau o’r Llyfrgell ar droed.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 09 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|