Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i leoli yng Ngharchar Rhuthun, carchar Fictoraidd Gradd II rhestredig yn arddull Pentonville. Yma, mae’r celloedd bellach yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol iawn - i storio casgliad archif y Sir. Gallwch ddefnyddio’r archifau i ymchwilio i hanes eich teulu, eich tŷ, yr ardal leol a llawer mwy. Mae’r cofnodion yn dyddio’n ôl i’r 12eg Ganrif hyd at y presennol.
Yn nigwyddiad Drysau Agored, gallwch fynd y tu ôl i’r llen ble mae archifau hanesyddol Sir Ddinbych yn cael eu cadw mewn storfa ddiogel a reolir yn amgylcheddol. Dysgwch fwy am ble mae’r archifau’n cael eu cadw ar hyn o bryd ac i ble y byddant yn symud yn rhan o brosiect Archifau Creadigol.
10.30am - 11.30am - Taith a sgwrs - Cewch gipolwg y tu ôl i len yr archifau! (uchafswm o 20 oedolyn)
1pm - 3pm- Datgloi’r Archifau: Taith i’r Teulu a Gweithdy Creadigol (uchafswm o 15 o blant, ac oedolion sydd gyda nhw)
Mae’n rhaid archebu lle. Rhif ffôn i archebu 01824 708250; e-bost: archifau@agddc.cymru
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yng Ngharchar Rhuthun
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP
Cyfarwyddiadau - Mae ein cangen Rhuthun yng Ngharchar Rhuthun, carchar Pentonville Fictorianaidd wedi’i leoli yn nhref Rhuthun. Ein cyfeiriad yw Yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP. Mae modd parcio ar y safle i hyd at ddau ddeiliad bathodyn glas ac mae digonedd o lefydd parcio mewn meysydd parcio talu ac arddangos gerllaw (Ffordd y Parc a Chae Ddôl).
Ar drên: Mae’r gorsafoedd trên agosaf yn y Rhyl a Wrecsam. Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws i fynd o orsaf Wrecsam neu’r Rhyl i Ruthun. Bydd teithiau o Wrecsam ar fws yn cymryd tua 50 munud a dros awr o’r Rhyl.
Ar fws: Mae’r arhosfan bws agosaf ar Stryd y Farchnad, Rhuthun. Pan fyddwch chi’n cyrraedd Stryd y Farchnad, ewch i Sgwâr San Pedr ac i lawr yr allt ar Stryd Clwyd Uchaf. Mae’r Hen Garchar ar y dde arwaelod Stryd Clwyd. Trowch wrth y giât gyntaf ac mae drws y gwasanaeth archif yn syth o’ch blaen. Bydd yn cymryd tua 5-10 munud i gerdded o Stryd y Farchnad i’r Hen Garchar
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:30 - 15:00
|