Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Archifau Gwent yn Wasanaeth Archifau Awdurdodau Lleol Achrededig, sy'n casglu a chadw archifau sy'n ymwneud â hen sir Gwent ac yn eu gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae'r archif wedi'i lleoli yn adeilad hanesyddol y Swyddfeydd Cyffredinol, a adeiladwyd yn 1913 fel adeilad gweinyddol ar gyfer Gwaith Dur Glynebwy.

Ewch i ymweld ag Archifau Gwent ar 26 Medi ar gyfer digwyddiad Diwrnod Drysau Agored. Dyma'ch cyfle i weld popeth sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni a chlywed am y casgliadau.

Mae'r digwyddiad Diwrnod Drysau Agored hwn yn rhan o ddathliad ehangach o archifau a chofnodion Cymru drwy brosiect Archifau Cymru Byw a gynhelir ym mis Medi 2026. Mae archifau ar gyfer pawb, felly dewch i ymuno os oes gennych ddiddordeb mewn hanes, treftadaeth, diwylliant a chreadigrwydd.

Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Pedair taith trwy gydol y dydd (10:15, 11:15, 13:00, 14:00), ac mae lle i ddeg ar bob taith. Ffoniwch neu e-bostiwch y canlynol i archebu lle -
enquiries@gwentarchives.gov.uk
01495 766261

Cyfeiriad - Archifau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6AA.

Cyfarwyddiadau - Trafnidiaeth gyhoeddus:
Mae gorsaf drenau tref Glynebwy wedi'i lleoli drws nesaf i'r Swyddfeydd Cyffredinol, ac mae trenau rheolaidd yn gweithredu o Gaerdydd Canolog. Mae gwasanaeth bysiau lleol da yng Nglynebwy. Mae'r orsaf fysiau wedi'i lleoli yn y dref, ac mae'r Swyddfeydd Cyffredinol i lawr y bryn oddi yno neu gellir defnyddio Ffordd Cebl Glynebwy. Mae yna arosfannau bysiau lleol gerllaw hefyd.

Mewn car:
O ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 dilynwch yr arwyddion am Lynebwy, yna ar gyfer y Gweithfeydd / The Works a Chasnewydd ac yna arwyddion am y Swyddfeydd Cyffredinol. O'r M4 (De) dilynwch yr A467 i Aber-bîg ac yna'r A4046 i gyfeiriad Glynebwy.

Mae ychydig o lefydd parcio ar gael am ddim yn y maes parcio gyferbyn â'r adeilad neu ym maes parcio gorsaf reilffordd Tref Glynebwy gerllaw. Ar gyfer ceir trydan mae 6 pwynt gwefru trydan Math 2 (7.5kw) ar gael ar draws y ddau faes parcio, a weithredir trwy ap ffôn clyfar Connected Kerb. Mae maes parcio aml-lawr rhad ac am ddim ychydig ymhellach i ffwrdd (200m), wrth ymyl Campws Coleg Gwent ar Lime Avenue.

Mae Archifau Gwent ar lawr gwaelod y Swyddfeydd Cyffredinol, i gyd ar un lefel ac yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, sgwteri symudedd a phramiau. Mae mynediad hygyrch ar gael drwy’r fynedfa gefn ac mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod. Mae'r ddau faes parcio agosaf at y Swyddfeydd Cyffredinol yn cynnwys lleoedd ar gyfer deiliaid bathodynnau anabl ynghyd ag ychydig o leoedd oddi ar Lime Avenue.

Mae dolen glyw yn ei lle yn yr Ystafell Ymchwil, a dylid newid cymhorthion clyw i'r safle 'T'. Mae holl staff Archifau Gwent yn hapus i roi cyngor ar eu gwasanaethau, eu cyfleusterau a'u casgliadau a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth ychwanegol a'u hymrwymiad i hygyrchedd yn y Polisi Cynhwysiant a Hygyrchedd.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 26 Med 2026
10:00 - 16:00