Drysau Agored - Bronheulog, Bwthyn Sefydliad y Merched
Tybir bod bwthyn unllawr Bronheulog wedi’i godi yn 1832, a’i fod wedi’i roi gan Iarlles Lisburne i Sefydliad y Merched yn 1917 i fod yn ystafell gyfarfod. Dyma un o’r ychydig leoedd yn y DU sy'n eiddo i gangen leol o Sefydliad y Merched ac yn cael ei reoli ganddyn nhw.
Mae'n adeilad rhestredig Gradd II, a hynny am ei fod yn enghraifft o neuadd gynnar iawn yn hanes Sefydliad y Merched ac am ei gysylltiad ag Ystad Trawsgoed gerllaw.
Ar gyfer Drysau Agored, ddydd Sadwrn bydd bore coffi’n cael ei gynnal yn y bwthyn, sydd wedi'i ddiweddaru a'i ailaddurno'n ddiweddar.
Mae croeso i ymwelwyr grwydro’r ardd bywyd gwyllt, os yw'r tywydd yn caniatáu.
Bydd amrywiaeth o gacennau cartref, te/coffi/siocled poeth, cyffeithiau cartref melys a sawrus, eitemau crefft a phlanhigion gardd ar werth, yn ogystal â raffl â sawl gwobr.
Cyfeiriad – Bronheulog, Sefydliad y Merched, Llanafan, Ceredigion, SY23 4BA.
Llywio lloeren: SY23 4BA
Google Maps:
https://www.google.com/maps/place/Llanafan+Women's+Institute/@52.3330335,-3.9325123,17z/ ata=!3m1!4b1!4m6!3m5!1s0x486f9f6efb548a29:0xbeaca77894e4bbd5!8m2!3d52.3330335!4d-3.9299374!16s%2Fg%2F11ltkt_szd?
entry=ttu&g_ep=EgoyMDI2MDUxMi4wIKXMDSoASAFQAw%3D%3D
What3Words: ///cobble.abandons.digress
Saif Bronheulog mewn lle amlwg ar y brif ffordd drwy bentref Llanafan. Mae 16 km i'r de-ddwyrain o Aberystwyth a 2.4 km i'r de-ddwyrain o blasty Trawsgoed. Mae 250m i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Afan, ar ochr ogleddol y lôn, a rhaid croesi pont fetel dros Nant Pant-yr haidd i’w gyrraedd.
Nid yw'r bwthyn na'r ardd yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus i'r pentref ar benwythnosau.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
10:30 - 12:30
|