Dyma un o'r Bythynnod Clom Cymreig olaf sydd wedi goroesi, sef bwthyn wedi'i adeiladu o fwd o'r 17eg ganrif. Mae wedi cael ei adnewyddu yn ofalus gyda chyffyrddiadau modern, ac mae bellach yn encil un ystafell wely sy'n llawn cymeriad. Mae’r manylion gwerinol sydd wedi'u cadw yn cynnwys y corau gwartheg gwreiddiol, lloriau cerrig cobl a thrawstiau derw wedi'u duo â mwg, tra bod technoleg fodern fel y boeler pelenni biomas a phaneli solar wedi'u hychwanegu i greu arhosiad cynaliadwy a chyfforddus.
Mae croeso i bawb ymweld ar un o'r diwrnodau agored cyhoeddus am ddim i archwilio'r tŷ a dysgu ychydig mwy.
Cyfeiriad - Bwthyn Pontbrenmydyr, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ciliau Aeron, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8DQ.
Rhaid mynd dros dir cymydog i gyrraedd Pontbrenmydyr. Sylwch fod camerâu teledu cylch cyfyng ar waith ar y tir cyfagos. Parchwch breifatrwydd y cymydog os gwelwch yn dda.
Mae dau ris i lawr i'r bwthyn o'r drws ffrynt ac un gris o'r ystafell wely i'r ystafell ymolchi.
Sylwch fod yna rai lloriau anwastad hefyd. Mae gan y bwthyn hwn oleddf to isel iawn felly rhaid bod yn ofalus, yn enwedig wrth y drws ffrynt.
Cyfarwyddiadau.
What3Words - ///squirted.brick.panics
O Aberaeron ar yr A482 i Lanbedr Pont Steffan (dwyrain): wrth i chi adael y dref byddwch yn teithio trwy ardal goediog gydag ochrau coediog serth uwch eich pen ac oddi tanoch. Pasiwch y gilfan ar y dde a throwch i’r chwith. Pontbrenmydyr yw'r troad nesaf ar y chwith ar ôl y bwthyn ar y dde. Dilynwch y trac i lawr - mae Pontbrenmydyr i'r chwith o'r bwthyn gwyn drwy'r giât bren.
O Lanbedr Pont Steffan ar yr A482 (gorllewin): teithiwch trwy bentref Ciliau Aeron - ewch heibio'r arwydd brown am Lanerchaeron. Teithiwch trwy ardal goediog - Pontbrenmydyr yw'r troad nesaf ar y dde ar ôl yr arhosfan bws a’r troad i’r chwith. Dilynwch y trac i lawr - mae Pontbrenmydyr i'r chwith o'r bwthyn gwyn drwy'r giât bren.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
11:00 - 14:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
11:00 - 14:00
|