Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae adeiladau ffrâm bren yng Nghanolfan Sgiliau’r Goedwig.

Mae’r adeiladau hyn yn defnyddio technegau adeiladu fframiau pren traddodiadol gyda chladio llarwydden, plastr calchfaen y tu fewn, insiwleiddio sy’n defnyddio gwlân dafad, llosgwr coed a tho ffotofoltaidd. Maen nhw hefyd yn cydymffurfio â gofynion cynllunio ac adeiladu’r unfed ganrif ar hugain er mwyn cynhyrchu adeilad carbon negyddol sydd â mynediad llawn i bobl anabl a Band Perfformiad Ynni A.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi gyda Thaith hunan-yrru o amgylch y Fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brookhouse ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn -
www.darganfoddinbych.cymru 
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cyfeiriad - Canolfan Sgiliau’r Goedwig, The Warren, Bodfari, Dinbych, LL16 4DT.

What3Words: (CYM) ///plygu.argraffydd.achlysuron
(ENG) ///butchers.nuns.relatives

Cyfarwyddiadau – o’r gorllewin – ewch drwy Fodfari, ar ôl milltir (mae arwydd “gwyro am hanner milltir), ar ôl 150 llath trowch i’r chwith gyferbyn ag arwydd Canolfan Sgiliau’r Goedwig ar y dde. Mae mynedfa’r safle 600 llath ar y chwith. Argymhellir ymweld mewn car/ar feic oherwydd bod y ffordd yn brysur a’r gwasanaeth bws yn anaml.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
10:00 - 17:00
Sul 20 Med 2026
10:00 - 17:00