Mae Tŷ Newydd yn cynnwys tŷ a gerddi hanesyddol sydd wedi’u rhestru Gradd II*. Mae’r tŷ yn dyddio’n ôl i'r bymthegfed ganrif gydag ychwanegiadau ac ailfodelu nodedig wedi’u cyflawni gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis yn y 1940au. Comisiynwyd y gwaith hwn gan David Lloyd George. Mae Tŷ Newydd wedi'i leoli mewn lleoliad ysbrydoledig rhwng afon Dwyfor a Bae Ceredigion, gyda golygfeydd trawiadol o’r arfordir ac ucheldir Eryri. Tŷ Newydd bellach yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru a phencadlys Llenyddiaeth Cymru, sef elusen genedlaethol ar gyfer hybu ysgrifennu a llenyddiaeth. Maen nhw’n cynnal rhaglen lawn gydol y flwyddyn sy’n cynnwys cyrsiau ysgrifennu creadigol, llefydd aros a lleoliad i encilio iddo ar gyfer pobl ar bob cam o'r daith o feithrin doniau ysgrifennu. Mae’r cyrsiau’n addas ar gyfer pobl ifanc, awduron sydd ar ddechrau eu gyrfa, gweithwyr proffesiynol arobryn ac amaturiaid sy’n angerddol am feithrin eu sgiliau ysgrifennu.
Rydym yn falch iawn o groesawu ymwelwyr i ymweld â thŷ a thiroedd Tŷ Newydd ac i wybod a deall mwy am hanes Tŷ Newydd a'i raglen gyfredol. Byddwn hefyd yn cynnig gweithgareddau ysgrifennu creadigol ‘galw mewn’ i deuluoedd a phawb rhwng 5 oed a 105 oed yn ogystal â chynnig te a chacen.
Cyfeiriad - Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW.
Yn teithio o’r de ar hyd yr A487:
Ar ôl pasio Porthmadog, dilynwch yr arwyddion i Gricieth a Phwllheli. Gyrrwch drwy dref Cricieth a dilyn y ffordd wedyn am Bwllheli am filltir.
Trowch i’r dde i bentref Llanystumdwy a chymryd yr ail droad i’r dde cyn y bont gul dros yr afon. Bydd y ffordd yn eich arwain heibio ceir wedi parcio, a dan ganopi o frigau coed.
Ar ôl 500 medr, trowch i’r dde wrth y giât wen a’r pileri carreg, a dilyn y lôn i Dŷ Newydd.
Yn teithio o’r gogledd ar hyd yr A487:
O Gaernarfon, dilynwch yr A487 am 12 milltir nes cyrraedd Bryncir. Gyrrwch drwy Fryncir, a chymryd troad i’r dde wrth adael y pentref am Gricieth ar y B4411.
Gyrrwch am 2.5 milltir, a chymryd de arall tuag at Lanystumdwy ar ôl pasio drwy Roslan. Dilynwch y ffordd at y gyffordd, a throi i’r chwith i mewn i bentref Llanystumdwy. Dilynwch y ffordd drwy’r pentref a throi i’r chwith ar ôl croesi pont gul dros yr afon. Bydd y ffordd yn eich arwain heibio ceir wedi parcio, a dan ganopi o frigau coed.
Ar ôl 500 medr, trowch i’r dde wrth y giât wen a’r pileri carreg, a dilyn y lôn i Dŷ Newydd.
Gallwch hefyd cyrraedd Tŷ Newydd ar drafnidiaeth cyhoeddus, mae bysus Arriva yn gwasanaethu Llanystumdwy, Cricieth a’r ardal leol.: https://www.tynewydd.cymru/dewchohydini/
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sul 27 Med 2026 |
13:30 - 17:00
|