Capel Annibynnol yw Lôn Swan ac fe'i hadeiladwyd gyntaf yn 1742, a'i addasu yn 1812. Mae'r capel presennol, sydd â’r dyddiad 1839 arno, wedi'i adeiladu yn arddull gymesur Glasurol mynediad trwy’r talcen. Ychwanegwyd ffasâd fel addurn newydd yn arddull y Dadeni Eidalaidd ynghyd â’r Mans tua 1880 ac ysgoldy yn 1907. Mae’r tu mewn i'r capel yn gain gyda galeri siâp U wedi'i gynnal ar golofnau haearn bwrw ac mae organ fawr gan Bellamy o Ddinbych yn uchel y tu ôl i’r pulpud.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi gyda Thaith hunan-yrru o amgylch y Fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brookhouse ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn -
www.darganfoddinbych.cymru
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Lôn Swan, Dinbych, LL16 3SP.
what 3words:
(ENG) ///haven.waking.sugar
(CYM) ///paced.noswyl.rhagofal
Mae'r eiddo ar y dde ar Stryd y Capel, y stryd gyntaf ar y dde wrth i chi deithio i lawr Stryd y Dyffryn o'r Stryd Fawr.
Mae arosfannau bysiau gerllaw ar y Stryd Fawr yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth 51/52 o'r Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|