Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Beili Du yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn enghraifft ardderchog o gapel mur-hir mewn lleoliad gwledig, gyda gwaith coed wedi’i baentio â graen ffug, yn nodweddiadol o’i gyfnod. Sefydlwyd yr achos yma yn 1790 a gosodwyd darn o dir yn perthyn i fferm Beili Du ar brydles i’r ymddiriedolwyr yn 1800.

Ailadeiladwyd y capel presennol yn 1858, pan oedd ei arddull ‘mur-hir’ gwyngalchog rwbel braidd yn hen-ffasiwn yn ei gyfnod.  Nid oes prin unrhyw arlliw o’r ffasiwn Fictoraidd y tu mewn, gan gynnwys y pulpud sydd megis twba.

Mae hwn yn gyfle i bobl weld y capel.

Cyfeiriad - Beili Du, Pentre-bach, Pontsenni, Sir Frycheiniog, LD3 8UB.

Cyfarwyddiadau - i gyfeiriad Aberhonddu ar yr A40 trwy Bontsenni, wrth i chi adael Pontsenni, cymerwch y troad ar y chwith ag arwyddion am Bentre-bach a Phentre'r Felin. Dilynwch y ffordd heibio i SENTA a pharhau nes i chi gyrraedd Pentre'r Felin. Trowch i'r dde dros y bont, gan ddilyn yr arwyddion i Bentre-bach a'r Country Pub. Parhewch ar hyd y ffordd heb droi oddi arno nes i chi gyrraedd Pentre-bach. Wrth i chi agosáu at y pentref fe welwch chi Gapel Beili Du ar draws y dyffryn ar eich chwith. Unwaith y byddwch yn y pentref, gallwch barcio y tu allan i'r Shoemakers Arms. I ymweld â'r capel, croeswch y bont goncrit fechan ychydig cyn y maes parcio a dilynwch y lôn i'r capel.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 12 Med 2026
11:00 - 15:00