Safleoedd crefyddol hardd yn holl liwiau'r enfys.
Nid yw golwg allanol plaen y capel a'r eglwys yn rhoi unrhyw awgrym o'r rhyfeddodau o'u mewn. Camwch i mewn i Gapel y Rug o'r 17eg ganrif a chewch eich synnu gan y gwaith addurniadol. Os ydych yn un sy'n hoff o finimaliaeth, efallai y dylech gymryd anadl ddofn cyn camu i mewn.
Creodd ei sylfaenydd, y brenhinwr Cyrnol William Salesbury, gapel preifat a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau crefyddol 'uchel eglwysig' gan ddefnyddio arddull gwahanol iawn a oedd yn groes i syniadau piwritanaidd y cyfnod.
Teithiau tywys am 2pm.
Nid oes angen archebu lle.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
14:00 - 15:00
|