Skip to main content

Ar 14 Gorffennaf 1931, defnyddiwyd allwedd aur i agor Capel y Tabernacl, capel hardd newydd ar gyfer y gymuned Gymraeg ym Mhorthcawl. Mae’r capel yn dal i fod yn fan addoli hyd heddiw, gyda gwasanaethau Cymraeg ar y Sul am 11:15am yn cael eu rhedeg gan yr Annibynnwyr.

Mae’r capel yn adeilad rhestredig Gradd II, ac mae’n cynnwys motiffau a phatrymau ‘art deco’ y tu mewn a’r tu allan, gwaith pren trawiadol a ffenestr fawr o wydr lliw, yn ogystal ag oriel sydd, yn anarferol, heb unrhyw bileri ac sy’n gwbl hunangynhaliol.

Y tu ôl i’r capel hanesyddol mae neuadd fodern a gaiff ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymunedol drwy gydol yr wythnos.

Mae croeso i bawb i’r diwrnod agored ddydd Sadwrn, 21 Medi rhwng 10am a 4pm.
Bydd arddangosfa o ffotograffau o Borthcawl yn y 1930au – er mwyn rhoi syniad o’r ardal yn y cyfnod pan agorwyd y capel. Bydd teithiau tywys o gwmpas y capel hefyd, a lluniaeth a gweithgareddau/gemau ar gyfer ymwelwyr iau.

Does dim angen archebu lle.

Ceir mynediad a thoiledau i’r anabl. Mae’r capel yn daith gerdded fer o ganol tref, glan y môr a gorsaf fysiau Porthcawl.

Cyfeiriad: Capel y Tabernacl, 18 Fenton Place, Porthcawl, CF36 3DW.

Cyfarwyddiadau. Trafnidiaeth gyhoeddus: Mae bysiau 63 ac X2 yn teithio i Borthcawl. Dewch oddi ar y bws yn y terminws ar John Street, yna cerddwch i fyny South Road am ychydig, cyn troi i’r chwith wrth dafarn y Seahorse ac i mewn i Fenton Place. Mae'r capel tua hanner ffordd i lawr y stryd ar y chwith.
Mae'r capel rhyw 5-10 munud o gerdded o'r prif feysydd parcio yng nghanol tref Porthcawl.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00