Dewch i un o'n sesiynau Siôn Corn!
Mae sesiynau Siôn Corn yn cynnwys mynediad i Groto Siôn Corn, yn ogystal â’r cyfle i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn.
Archebwch docynnau ymlaen llaw ar-lein i’ch plant gael ymweld â Groto Siôn Corn.
19 Rhagfyr – Sesiynau yn y Gymraeg
(Sylwer: Nid yw tocynnau henebion Cadw a thocynnau digwyddiadau nad ydynt yn rhai Cadw yn ddilys ar gyfer y digwyddiad hwn).
Sut i archebu
Ewch i dalu (rhaid archebu pob tocyn Siôn Corn ymlaen llaw)
Byddwch yn brydlon ar gyfer eich slot Siôn Corn. Mae croeso i chi gyrraedd yn gynt a mwynhau crwydro o amgylch y castell a chymryd rhan yn y gweithgareddau. Ond fe fydd y castell a'r gweithgareddau’n dechrau cau am 3.30pm.
Diolch. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Nadolig yng Nghastell Coch!
Pan fyddwch chi'n ymweld
Mae pob tocyn Groto Siôn Corn yn cynnwys mynediad i blant i'r castell ac i'r groto.
Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i'ch archeb, gallwn ddod o hyd i'ch archeb trwy eich enw a/neu gyfeiriad e-bost.
| Categori | Price |
|---|---|
| 0-18 mis oed |
£0.00
|
| 18 mis-4 oed |
£5.00
|
| 5-17 oed |
£10.00
|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Gwen 19 Rhag 2025 |
10:00 - 15:30
|