Skip to main content

Daeth y castell canoloesol gwych hwn a drowyd yn blasty Tuduraidd yn fan delfrydol i ysgrifenwyr.

Bu Dylan Thomas a'r awdur Richard Hughes yn ysgrifennu yn y tŷ haf ar dir y castell.

Edrychwch allan dros yr aber, mae'r golygfeydd gorau i'w gweld o'r adeilad hynafol hwn. Cewch eich swyno. 'Brown as owls' fel yr ysgrifennodd Dylan yn ei gerdd 'Poem in October'.
Wedi'i adeiladu yn y 13eg ganrif gan y teulu de Brian, ar ben castell cylchfur Normanaidd cynharach fwy na thebyg, etifeddiaeth barhaol Syr John Perrot yw'r plasty cadarn a welwn heddiw. Ni fu'n llwyddiannus iawn yn ystod y Rhyfel Cartref. Cafodd ei ddatgysylltu'n rhannol ar ôl iddo gael ei gipio gan luoedd Seneddol.

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
11:00 - 16:00