Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ar bentir arfordirol, a amddiffynnir gan ffos ddofn a chlawdd pridd, mae safle adeilad mawr, unigol, y datgelwyd ei sylfeini yn ystod cloddio archeolegol yn y 1980au. Mae’n ymddangos mai’r môr oedd canolbwynt y safle yn hytrach na'r tir, a chredir iddo gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol cynnar, o bosibl gan Lychlynwyr.

Bydd ymwelwyr yn cael eu harwain ar daith o gwmpas y safle ac yn clywed am ei gloddio yn y 1980au gan y diweddar David Longley, cyn-Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd,a'r gwaith clirio a chadwraeth a gwblhawyd yn ddiweddar.

Dydd Sadwrn 19 Medi - bydd y teithiau am 1pm a 3pm.

Dydd Sul 20 Medi - bydd y teithiau am 11am ac 1pm.

Cyfarfod wrth y gofeb. Nid oes angen archebu.

Cyfeiriad – Castell ger Trefadog, Llanfaethlu, Caergybi LL65 4PE Cyf. grid OS: SH 291 859 (safle) - SH 29207 85758 (parcio) what3words: ///trample.kickbacks.pounces (safle) - ///tractor.lighten.beauty (parcio) Cyfarwyddiadau - Mae'r safle'n hygyrch trwy lwybr caniataol o'r ffordd gyhoeddus. Parciwch ar ymyl y ffordd wrth y gyffordd-T a cherddwch i lawr yr allt ar Lwybr Arfordir Cymru tuag at Borth Trefadog. Nid yw'r safle'n hygyrch trwy drafnidiaeth gyhoeddus.

 


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
13:00 - 16:00
Sul 20 Med 2026
11:00 - 14:00