Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ym 1853, adeiladodd ymddiriedolaeth a sefydlwyd o ffortiwn Thomas Howell - masnachwr o'r 16eg ganrif - yr ysgol hon yn arddull colegol, llym, y cyfandir o’r cyfnod Gothig hwyr. Mae'r eiddo trawiadol, a elwir bellach yn Goleg Myddleton, yn cynnwys pum strwythur rhestredig gradd 2 godidog. Mae hyn yn cynnwys yr adain ogledd-ddwyreiniol ddiweddarach sy'n gartref i'r bloc gwyddoniaeth a'r cwadrangl a adeiladwyd ym 1914. Mae’r dehongliad cain hwn o’r 20fed ganrif o’r arddull Gothig colegol yn gydnaws ag arddull prif adeiladau’r ysgol. Hefyd, mae tri bloc o ystafelloedd cysgu o oddeutu 1930 wedi'u rhestru fel rhai sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth ysgolion y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, sef dehongliad modernaidd, llai mawreddog o’r arddull Gothig rhydd.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi gyda Thaith hunan-yrru o amgylch y Fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brookhouse ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn -
www.darganfoddinbych.cymru 
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Bydd taith am 1pm ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Cysylltwch â Llyfrgell Dinbych ar 01745 816313 yn nes at amser y digwyddiad i archebu lle.

Lleoliad - Lôn Peakes, LL16 3EN.
what3words: (ENG) ///wishing.uttering.hurricane
(CYM) ///sgip.hafaliadau.dewch

Cyfarwyddiadau - o'r Llyfrgell/Tafarn y Guildhall cerddwch i lawr Stryd serth y Parc heibio i Bryn y Parc ac ar ôl 100 metr cymerwch y tro cyntaf i'r dde i mewn i Lôn Peakes. Os ewch chi’n syth ymlaen daw gatiau Coleg Myddleton i’r golwg bellter byr o’ch blaen.
Mae arosfannau bysiau yng nghanol y dref yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth 51/52 o'r Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
13:00 - 14:00
Sul 20 Med 2026
13:00 - 14:00