Drysau Agored - Eglwys a Mynwent y Santes Fair, Tyndyrn
Mae adfeilion Eglwys y Santes Fair, mercheglwys Abaty Sistersaidd Tyndyrn, yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn heneb gofrestredig. Saif ar safle cysegredig hynafol yn Nhyndyrn, ac mae yno olygfeydd eithriadol.
Mae hanes eglwys y Santes Fair cyn iddi droi’n adfail yn lliwgar iawn, ac yn cynnwys seintiau Celtaidd, Sistersiaid, meistri haearn cyfoethog a methdalwyr. Cewch ddysgu am hen chwedlau llên gwerin, edmygu pensaernïaeth a henebion rhestredig Gradd II, a mwynhau tawelwch y fynwent.
Sylwch fod yr adfail ei hun ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd am resymau diogelwch, felly byddwch yn ymweld â'r fynwent ac yn edrych ar yr adfail o'r tu allan.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymweld ag eglwys y Santes Fair yng nghwmni tywysydd arbenigol.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Sadwrn: https://www.ticketsource.com/lwvbpt/cadw-open-doors-ruin-of-st-marys-churchyard-tour/erpvrxd
Sul: https://www.ticketsource.com/lwvbpt/cadw-open-doors-ruin-of-st-marys-churchyard-tour/e-yrmelj
Cyfeiriad – Eglwys y Santes Fair, Chapel Hill Lane, Chapel Hill, Tyndyrn, NP16 6SF.
Cyfarwyddiadau – bws cyhoeddus rhif 69 (Trefynwy–Cas-gwent)
Saif Eglwys y Santes Fair uwchben Abaty Tyndyrn, a rhaid cerdded am 10 munud i fyny llwybr serth trwy’r coed. Nid oes ffordd, lle parcio na mynediad i'r anabl. Mae croeso i gŵn ar dennyn. Gall fod braidd yn anodd dod o hyd iddo, felly byddwch chi'n cwrdd y tu allan i'r orsaf betrol ar brif ffordd Tyndyrn ac yn cerdded i fyny gyda'ch gilydd.
Bydd pawb sy’n archebu lle yn cael gwybodaeth am barcio a chyfarwyddiadau manwl ac ati trwy e-bost y diwrnod cyn y digwyddiad.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
12:00 - 12:40
|
| Sul 13 Med 2026 |
14:30 - 14:40
|