Skip to main content

Eglwys Sant Pedr yw'r eglwys Gatholig hynaf yn y ddinas, ac mae’n dyddio o'r 1860au. Fe'i hadeiladwyd yn arddull yr Adfywiad Gothig, ac mae'n gartref i Organ Goffa Julian Hodge a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Spath Orgelbau, y Swistir.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd yr eglwys ar agor ar gyfer teithiau tywys. Dyma gyfle i rannu cerddoriaeth y plwyf, yn ogystal â chyfle i wneud cais i ymchwilio i'r cofnodion helaeth a gedwir mewn cofrestrau bedydd.
Mae gan yr eglwys grŵp o drefnwyr blodau y bydd eu gwaith yn cael ei arddangos, a bydd cyfle i archwilio hanes yr ardal.

Nid oes angen archebu lle.

Lleolir yr eglwys ar Stryd Sant Pedr, Caerdydd, CF24 3BA.

Parcio gerllaw. Mynediad hawdd gyda mynediad ramp ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn stopio ar Heol Richmond a Heol y Plwca.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 20 Medi 2024
10:30 - 16:30
Sad 21 Medi 2024
10:30 - 16:30