Drysau Agored - Eglwys Llanddowror
Mae Eglwys Llanddowror yn adeilad rhestredig Gradd 2, a chaiff ei chysylltu yn hanesyddol â’r gweinidog Griffith Jones a sefydlodd yr Ysgolion Cylchynol yn y ddeunawfed ganrif. Dysgodd hanner poblogaeth Cymru sut i ysgrifennu a darllen yn yr ysgolion hyn. O ganlyniad, mae Griffith Jones yn cael ei gydnabod fel un o'r ffigurau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru.
Nid oes angen archebu lle.
Cyfeiriad - Eglwys Llanddowror , Llanddowror, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4HL.
Cyfarwyddiadau - trowch i'r chwith oddi ar yr A477 rhyw 1.5 milltir i'r gorllewin o Sanclêr tuag at bentref Llanddowror.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
13:00 - 16:00
|
Sul 22 Medi 2024 |
13:00 - 16:00
|