Skip to main content

Sefydlwyd yr eglwys restredig gradd 1 hon, sydd ger Llwybr Pererinion Gogledd Cymru, yn y 5ed ganrif gan Sant Nefydd, ŵyr Brychan Brycheiniog. Mae gan yr eglwys gysylltiadau arwyddocaol â diwylliant Cymru a’i hiaith. Dywedir i Catherine o Ferain, cyfnither i Elisabeth I ac un a adwaenir fel ‘Mam Cymru’, gael ei chladdu yn y fynwent; ceir tystiolaeth o’i tharddiad Celtaidd yn ei hymddangosiad cromlinog dyrchafedig. Dyma fan claddu John Roberts, 1775-1829, sylfaenydd traddodiad y Cynhaeaf Cymreig, a gynorthwyodd hefyd gyda chywiro argraffiad o'r Beibl Cymraeg a'r Llyfr Gweddi a gyhoeddwyd gan SPCK yn 1799.

Bydd llawer yn dod yma i geisio heddwch ac i weddïo, fel y gwnaeth pobl yn ystod y Terfysgoedd Bwyd, Gaeaf 1739-40 (pan rewodd Afon Tafwys) ac yn ystod Terfysgoedd y Degwm rhwng 1887-1890 – roedd y pentref yn enwog am ei ymwneud â'r olaf.

Te a choffi.

Dim angen archebu.

Cyfeiriad — Eglwys Nefydd Sant a’r Santes Fair, Llanefydd, Dinbych, LL16 5ED.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 16:00