Mae Eglwys Sant Pedr yn sefyll o fewn ei thiroedd helaeth ei hun. Agorwyd yr eglwys yn 1930 fel Capel Anwes ac mae’n enghraifft o ddyluniad mawr yn ystod cyfnod hwyr y mudiad Celf a Chrefft, sydd wedi'i hadeiladu mewn ffordd draddodiadol. Mae'r tiroedd ar safle mewn cornel nid nepell o ganol y pentref. Mae gardd lles cymunedol yn rhan o'r coetir hynafol, mewn partneriaeth ag elusen leol, sef Dinas Powys Voluntary Concern.
Bydd y penwythnos yn cynnwys digwyddiad gardd agored gyda the hufen brynhawn Sadwrn, cyngerdd corawl gyda Chôr Merched Taf Elái nos Sadwrn a'r cyfle i ymchwilio i hanes y teulu drwy gydol y penwythnos
Eglwys San Pedr, Heol y Felin, Dinas Powys, CF64 4BT.
Cyfarwyddiadau - gan ddechrau yn San Pedr mae modd cerdded i'r tair eglwys.
Mae trenau’n rhedeg i orsaf Dinas Powys bob 15 munud o Gaerdydd Canolog a phob awr o Ben-y-bont ar Ogwr.
Ar y ffordd i Ddinas Powys: o gyffordd 33 yr M4, cymerwch yr A4232. Arhoswch ar y ffordd hon tan y drydedd ffordd ymadael (tua 10km/6.2 milltir) wedi'i harwyddo i’r Stadiwm Athletau a Pharc Ninian. Yna trowch i'r dde (y ffordd ymadael olaf) am Ddinas Powys.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Gwen 25 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|